"This Is My Life" oedd sengl rhif un cyntaf Bergendahl. Aeth i rif un yn Sweden ar 5 Mawrth 2010 ac arhosodd ar frig y siart am bedair wythnos yn ddilynol.[1]
"This Is My Life" oedd y faled gyntaf i ennill Melodifestivalen ers enillodd Kärleken är yn 1998. Hefyd, y gân hon oedd 50fed ymgais Sweden i ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision. Daeth Bergendahl yn 11eg gyda 62 pwynt (roedd hi'n bum pwynt y tu ôl y 10fed lleoliad) yn yr ail rownd cyn-derfynol ar 27 Mai 2010 yn Oslo. Ni symudodd hi'n ymlaen i'r rownd derfynol, yr artist cyntaf o Sweden i wneud hyn ers pan gyflwynwyd y rownd(iau) cyn-derfynol yn 2004.[2]