Theophilus Jones
Theophilus Jones | |
---|---|
Ganwyd | 18 Hydref 1759 Aberhonddu |
Bu farw | 15 Ionawr 1812 Aberhonddu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd |
Tad | Hugh Jones |
Hanesydd o Gymru sy'n adnabyddus fel awdur llyfr ar hanes Brycheiniog, ei sir enedigol, oedd Theophilus Jones (1759 - 1812). Roedd yn wŷr i Theophilus Evans (1693 - 1797), awdur y llyfr enwog Drych y Prif Oesoedd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Theophilus Jones yn Aberhonddu yn 1759. Roedd ei dad Hugh Jones yn fab-yng-nghyfraith Theophilus Evans. Etifedodd Hugh lawer o ysgrifau hynafiaethol ei dad-yng-nghyfraith a throsglwyddodd hwy i'w fab yntau, Theophilus Jones.
Addysgwyd Theophilus Jones yng Ngholeg Crist yn ei dref enedigol. Yno daeth yn gyfaill oes i hynafiaethydd arall, Edward Davies ("Celtic Davies").
Gwaith mawr Theophilus Jones yw A History of the County of Brecknock (2 gyfrol, 1805, 1809). Mae'n waith ysgolheigaidd o safon uchel sy'n ffynhonnell bwysig i haneswyr. Cyfranodd nifer o bapurau ar hanes Cymru i gylchgronau dysgedig hefyd, yn cynnwys y cylchgrawn gwladgarol The Cambrian Register.
Casglai Theophilus Jones lawysgrifau Cymraeg hefyd. Y diddordeb hyn yn hanes a llenyddiaeth Brycheiniog a ddaeth ag ef i gysylltiad â'r hanesydd Thomas Price (Carnhuanawc). Gohebai'n gyson â sawl awdur a hanesydd arall, yn cynnwys Gwallter Mechain.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Theophilus Jones, A History of the County of Brecknock (2 gyfrol, 1805, 1809)
- Edwin Davies, Theophilus Jones (1905). Cyfrol goffa sy'n cynnwys detholiad o'i ohebiaeth.