Theatr yn Wcráin

Oddi ar Wicipedia

Yn yr 17g ganed traddodiad y theatr yn Wcráin, dan ddylanwadau Baróc o’r gorllewin. Datblygodd ymddiddan ar fydr yn genre "theatr yr ysgol", a chanddi stoc ddramodol o chwedlau Cristnogol, dramâu hanes, a sioeau pypedau (vertep). Yr esiampl wychaf o theatr Faróc y Cosaciaid ydy'r ddrama hanesyddol Vladimir (1705) gan Teofan Prokopovych (1681–1736).[1]

Wedi cyfnod o ddirywiad ym myd y theatr, datblygodd ffurf ethnograffig ar y ddrama Wcreineg yn y 19g dan ddylwanwad Rhamantiaeth. Cyrhaeddai dramâu gwerin a vaudeville eu hanterth yn niwedd y 19g a dechrau’r 20g, cyfnod a welai actorion celfyddgar megis Mykola Sadovsky (1856–1933) a Mariia Zankovetska (1854–1934) yn troedio'r llwyfannau. Ehangwyd stoc y theatr Wcreineg, yn sgil diwedd sensoriaeth ym 1905, i gynnwys dramâu modern gan ddramodwyr megis Lesia Ukrainka (1871–1913), Volodymyr Vynnychenko (1880–1951), ac Oleksandr Oles (1878–1944), yn ogystal â throsiadau o ieithoedd eraill.

Er gwaetha'r rhyfela a'r cythrwfl gwleidyddol yn sgil y Chwyldro Bolsieficaidd, blodeuai'r theatr yn Wcráin y cyfnod o 1917 i 1933. Y cwmni amlycaf oedd Theatr Berezil yn Kharkiv, dan gyfarwyddiaeth Les Kurbas (1887–1937), o 1922 i 1933, ac mae'n debyg taw'r brif ddramodydd oedd Mykola Kulish (1892–1937) a nodir am Patetychna Sonata sydd yn cyfuno technegau Mynegiadol â phypedaeth vertep. Fodd bynnag, gorfodwyd ideoleg ddiwylliannol Realaeth Sosialaidd ar fyd y theatr ar draws yr Undeb Sofietaidd o ganol y 1930au ymlaen. Oleksandr Korniychuk (1905–72) oedd dramodydd Wcreinaidd blaena'r cyfnod hwn.

Yn sgil polisi glasnost yn y 1980au, bu ymchwydd sylweddol yn y theatr. Cynnyddodd y nifer o chwaraedai yn Kyiv o 12 i 100 bron. Perfformiwyd dramâu a waharddwyd ynghynt, gan gynnwys dramâu modernaidd, gweithiau beirniadol o'r llywodraeth Sofietaidd, ac esiamplau o theatr yr absẃrd o Orllewin Ewrop.[2] Heddiw, lleolir mwy na 400 o theatrau cyhoeddus a phreifat ar draws Wcráin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Ukraine: Theatre and motion pictures. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Hydref 2022.
  2. Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 624.