Neidio i'r cynnwys

Theatr Fach Llangefni

Oddi ar Wicipedia
Theatr Fach Llangefni
Arwyddair"Cysgodion ydym - fel Cysgodion yr ymadawn"
Maththeatr Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol3 Mai 1955
Daearyddiaeth
LleoliadLlangefni
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.25619°N 4.29775°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Theatr Fach Llangefni wedi ei lleoli yn stad Pencraig yn Llangefni, Ynys Môn.

Agorwyd drysau’r theatr ym 1955 ac mae wedi bod yn llwyfan ar gyfer dramâu, pantomeimiau a chyngherddau yn ddi-dor ers hynny. O’r cychwyn cyntaf gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal y theatr.[1]

Breuddwyd gŵr o’r enw Francis George Fisher oedd Theatr Fach Llangefni. Roedd Fisher yn gymeriad cymhleth ac fe’i disgrifiwyd fel, ’...Sais a ddysgodd Gymraeg.[2]’ ; ‘...a remarkable man, possessing dynamic powers.’ [3] ac fel un oedd ‘...yn ŵr o awdurdod a thân yn ei galon a golau yn ei ben, ac mae’r ddrama yng Nghymru yn dlotach o’i golli.’ [4]

Yn 1949 llwyfannwyd dramâu’r Gymdeithas yn Neuadd Ysgol y Sir ar y dechrau a chafwyd caniatâd i ddefnyddio’r labordy, fel gweithdy, yn yr hen ysgol pan agorwyd yr Ysgol Gyfun yn 1953. Yn 1954, penderfynodd y Pwyllgor Addysg dynnu’r hen ysgol i lawr a bu raid wynebu’r ffaith fod angen chwilio am gartref newydd, sefydlog. Ar y pryd yr oedd Cyngor Dinesig Llangefni wedi prynu Stâd Pencraig. Ymysg yr adeiladau oedd ysgubor helaeth a llofft stabal ynghyd â rhai ystafelloedd eraill. Cafwyd cytundeb y Gymdeithas i geisio sicrhau’r adeiladau drwy brynu, os yn bosibl, neu, o leiaf eu rhentu. Pan ddaeth y Gymdeithas yn denant am y tro cyntaf, talwyd rhent o 5/- yr wythnos! Yn ddiweddarach mentrwyd prynu’r adeilad am £250 swm a brofodd yn fuddsoddiad gwerth chweil.

“Yn niwedd Ionawr 1955 aeth criw o ryw ddau ddwsin o aelodau’r Gymdeithas ati i addasu’r ‘sgubor yn ôl syniadau George Fisher…Gyda chyfarwyddyd I. D. Thomas, Dirprwy Bensaer y Sir ac aelod o’r Gymdeithas aethpwyd ati i dynnu i lawr y llofft ac un wal a defnyddio’r rwbel fel sylfaen i lwyfan … trwy fisoedd y gaeaf a’r gwanwyn aeth y gwaith ymlaen yn ddi-stop am dair awr a hanner bob noson gwaith … prynu defnyddiau o bob math, sicrhau cyflenwad digonol o drydan, a chwilio am gadeiriau esmwyth i’r gynulleidfa…ni thalwyd dimau goch am lafur - gwirfoddolwyr oedd pob un o’r gweithwyr.” [5]

Agorwyd Theatr Fach Llangefni yn swyddogol ar nos Fawrth 3 Mai 1955 efo perffomiadau o Rwsalca (Chwedl Rawsiaidd) gan Cynan a It's Autumn Now gan Philip Johnson. Drama wedi ei selio ar waith Anton Chekhov.

Y Presennol

[golygu | golygu cod]

Heddiw, mae gan y theatr awditoriwm â lle i 112 o gynulleidfa; llwyfan, system golau a sain, tŵr ac esgyll i storio golygfeydd a desg i reolwr llwyfan; gweithdy-storfa goed, paent a chelfi; dwy ystafell wisgo a dewis helaeth o wisgoedd uwchben yn y wardrob; Ystafell Fisher, sef ystafell aml-bwrpas i ymarfer; Cyntedd Cyril Bradley, lle mae’r ddesg docynnau a man cyfarfod a’r Bar lle mae modd torri syched cyn ac ar ôl perfformiadau.

Mae Theatr Fach wedi bod yn fagwrfa i sawl actor proffesiynol, gan gynnwys J. O. Roberts, Hywel Gwynfryn, Elen Roger Jones, Glyn (Pensarn) Williams, Yoland Williams, John Pierce Jones, Albert Owen, William R Lewis, Gwenno Ellis Hodgkins a dwsinau o rai amaturaidd.

Mae grŵp drama ieuenctid yn cael ei gynnal yn y theatr yn wythnosol ar y cyd â Menter Môn, sef Theatr Ieuenctid Môn.

Mae'r criw uwchradd yn cyfarfod bob nos Fawrth a'r criw cynradd yn cyfarfod ar nosweithiau Mercher.[6]

Pwyllgor Rheoli

[golygu | golygu cod]

Mae gan y theatr bwyllgor brwdfrydig sy’n gweithio yn wirfoddol i gynnal a chadw un o theatrau mwyaf unigryw Cymru. Aelodau'r Pwyllgor yn 2024 oedd : [7] Lowri Cêt - Cadeirydd; Owain Parry - Is-Gadeirydd; Catrin Lois a Mared Edwards - Ysgrifenyddion; Rhys Parry - Trysorydd; Anwen Weightman, Gethin Williams, Robert Idris, Emyr Rhys-Jones, Nia Haf, Llio Mai, Gethin Jones, Manon Wyn, Gwen Edwards, Carwyn Jones, Non Dafydd, Rhys Richards a Gareth Evans-Jones.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • J. Richard Williams, Deugain Mlynedd o Droedio’r Byrddau (Cyhoeddiad Theatr Fach, 1995)
  • Cofio’r Adnabyddiaeth-Edward Williams, gol. O. Arthur Williams (Gwasg Pantycelyn)
  • Llewelyn Jones, Francis George Fisher-Bardd a Dramodwr (Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1983)
  • O. Arthur Williams, Hanes y Ddrama Gymraeg ym Môn 1930-75 (Cyhoeddiad preifat, 2008)
  • Dilys Shaw, Theatr Fach Llangefni 1955-1983 (Cyhoeddiad Theatr Fach, 1983)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Williams, J. R. (2005-04-14). "Theatr Fach yn 50 mlwydd oed". TheatrFach Llangefni. Cyrchwyd 2024-08-12.
  2. Cylchgrawn Môn. Hydref 1950. Check date values in: |year= (help)
  3. Bowen Thomas, Syr Ben (26 Hydref 1972.). "The North Wales Chronicle". The North Wales Chronicle. Check date values in: |date= (help)
  4. Jones., Bedwyr Lewis (12 Awst 1970.). F.G. Fisher 1909-70. Taliesin. Check date values in: |year= (help)
  5. Jones, Llywelyn (1983). “Francis George Fisher - Bardd a Dramodwr”. Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn.
  6. "Ieuenctid | Theatr Fach Llangefni". TheatrFach Llangefni. Cyrchwyd 2024-08-12.
  7. "Y Pwyllgor | Theatr Fach Llangefni". TheatrFach Llangefni. Cyrchwyd 2024-08-12.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]