Theatr Fach Llangefni

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Theatr Fach, Llangefni)
Theatr Fach Llangefni
Maththeatr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.25619°N 4.29775°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Theatr Fach Llangefni wedi ei lleoli yn stad Pencraig yn Llangefni,Ynys Môn.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Breuddwyd gŵr o’r enw Francis George Fisher oedd Theatr Fach Llangefni, theatr a’i gwreiddiau mewn pwll nofio a stabl! Roedd Fisher yn gymeriad cymhleth ac fe’i disgrifiwyd fel, ’...Sais a ddysgodd Gymraeg.[1]’ ; ‘...a remarkable man, possessing dynamic powers.’ [2] ac fel un oedd ‘...yn ŵr o awdurdod a thân yn ei galon a golau yn ei ben, ac mae’r ddrama yng Nghymru yn dlotach o’i golli.’ [3]

Yn 1957, prynwyd gweddill yr adeilad ac ehangu’r theatr. Heddiw, mae iddi Awditoriwm a lle i 110 o gynulleidfa; llwyfan, system golau a sain, tŵr ac esgyll i storio golygfeydd a desg i reolwr llwyfan; gweithdy-storfa goed, paent a chelfi; ystafelloedd gwisgo i ddynion a merched a dewis helaeth o wisgoedd uwchben; Ystafell Fisher aml-bwrpas i ymarfer; Cyntedd Cyril Bradley, lle mae’r ddesg docynnau a man cyfarfod a’r Bar lle gellir torri syched a thafod.

Yn neuadd hen Ysgol Ramadeg Llangefni y cynhaliwyd perfformiadau cyntaf Cymdeithas Ddrama Llangefni ac yn y pwll nofio (gwag) y cadwyd y celfi a`r dodrefn. Pan ddarganfyddwyd fod pry` (woodworm) ung nghoed yr adeliad, rhaid oedd chwilio am gartref newydd.

Yr ail gartref oedd rhan o stablau Plas Pencraig ar gwr y dref. Rhentwyd y stabl am 5/-ur wythnos ac yn ddiweddarch ,fe`i prynwyd am £250. Y perchennog ar y pryd oedd Cyngor Dosbarth Dinesig Llangefni. Addaswyd yr adeilad yn theatr bwrpasol i`r Gymdeithas a phobl Mon yn geffredinol. Agorwyd y theatr (Theatr Fach) yn swyddogol ar nos Fawrth 3 Mai 1955 efo perffomiadau o 'Rwsalca' ( Chwedl Rawsiaidd ) gan Cynan ( Archdderwydd eisteddfodol (dwywaith) bardd, dramodwr, llenora sensor) a 'it`s Autumn Now` gan Philip Johnson. Drama wedi ei selio ar waith Anton Chekhov.

Mae Theatr Fach weddi bod yn fagwrfa i sawl actor proffesiynol (yn cynnwys J. O. Roberts, Hywel Gwynfryn, Elen Roger Jones, Glyn (Pensarn) Williams, Yoland Williams, John Pierce Jones, Albert Owen, William Lewis, Gwenno Ellis Hodgkins a dwsinau o rai amaturaidd ac y mae iddi Grŵp Theatr Ieuenctid i feithrin talent ar gyfer y dyfodol yn ogystal â phwyllgor brwdfrydig sy’n gweithio i gynnal a chadw un o theatrau mwyaf unigryw Cymru.

Arwyddair y Theatr yw : Cysgodion ydym - fel Cysgodion yr ymadawn.


Aelodau Presennol y Pwyllgor (2022) -

Llio Mai Hughes - Cadeirydd

Carwyn Jones - Is-Gadeirydd

Caryl Bryn - Ysgrifennydd

Rhys Parry - Trysorydd


Iwan Evans

Anwen Weightman

Gethin Rees Roberts

Gethin Williams

Gareth Evans Jones

Emyr Rhys-Jones

Jasmine Leanne Roberts

Lowri Cêt

Bethan Elin

Mari Elen

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • J. Richard Williams, Deugain Mlynedd o Droedio’r Byrddau (Cyhoeddiad Theatr Fach, 1995)
  • Cofio’r Adnabyddiaeth-Edward Williams, gol. O. Arthur Williams (Gwasg Pantycelyn)
  • Llewelyn Jones, Francis George Fisher-Bardd a Dramodwr (Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1983)
  • O. Arthur Williams, Hanes y Ddrama Gymraeg ym Môn 1930-75 (Cyhoeddiad preifat, 2008)
  • Dilys Shaw, Theatr Fach Llangefni 1955-1983 (Cyhoeddiad Theatr Fach, 1983)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cylchgrawn Môn. Hydref 1950. Check date values in: |year= (help)
  2. Bowen Thomas, Syr Ben (26 Hydref 1972.). "The North Wales Chronicle". The North Wales Chronicle. Check date values in: |date= (help)
  3. Jones., Bedwyr Lewis (12 Awst 1970.). F.G. Fisher 1909-70. Taliesin. Check date values in: |year= (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]