The Matrix

Oddi ar Wicipedia
The Matrix

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Lana Wachowski
Lilly Wachowski
Cynhyrchydd Joel Silver
Lana Wachowski
Lilly Wachowski
Ysgrifennwr Larry Wachowski
Andy Wachowski
Serennu Keanu Reeves
Laurence Fishburne
Carrie-Anne Moss
Hugo Weaving
Joe Pantoliano
Gloria Foster
Cerddoriaeth Don Davis
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Warner Bros.
Village Roadshow Pictures
Dyddiad rhyddhau 31 Mawrth 1999
Amser rhedeg 136 munud
Gwlad Unol Daleithiau /
Awstralia
Iaith Saesneg
Olynydd The Matrix Reloaded

Ffilm ffugwyddonol a welodd olau dydd yn 1999 ac sy'n serennu Keanu Reeves, Laurence Fishburne, Carrie-Anne Moss, a Hugo Weaving yw The Matrix (1999); cynhyrchwyd gan y chwiorydd Wachowski: Lana a Lilly. Mae'r ffilm yn darlunio dystopia o ddyfodol ble mae realaeth fel y caiff ei deimlo/synhwyro gan y rhan fwyaf o bobol yn ffug realaeth a elwir yn "the Matrix" sydd wedi'i greu gan beiriannau ymdeimladol i ddarostwng dyn. Yn y broses, defnyddir eu cyrff gan y peiriant, fel mae hefyd yn defnyddio gwres a gweithgaredd trydanol.

Mae'r rhaglenwr meddalwedd "Neo"'n dysgu'r gwirionedd yma a chaiff ei dynnu i ryfel yn erbyn y peiriannau, rhyfel i ryddhau pobl o'u "byd breuddwydiol".

Datblygwyd un dechneg yn y ffilm a gaiff ei gydnabod heddiw fel cam mawr a phwysig ym myd y ffilm ffugwyddonol, sef y dechneg a elwir yn "bullet time", ble mae'r ymdeimlad o rai cymeriadau yn cael ei gynrychioli drwy ganiatáu un symudiad mewn araflun (slow motion) falwennu'n araf yn ei flaen, tra'i fod o safbwynt (neu berspectif) y camera'n ymddangos i symud ar gyflymder arferol. Mae'r ffilm yn esiampl o'r genre a elwir yn "wyddonias pync".[1] Mae'n cynnwys nifer o gyfeiriadau i syniadau crefyddol ac athronyddol, megis Alegori'r Ogof gan Plato[2], Simulacra and Simulation gan Jean Baudrillard[3] ac Alice's Adventures in Wonderland gan Lewis Carroll.[4]

Dylanwadwyd yn fawr ar y ddau frawd a sgwennodd y sgript gan animeiddiadau o Japan[5], ffilmiau crefft ymladd (martial arts) a choreograffi paffio. Cafodd y ffilm gryn effaith a dylanwad ar ffilmiau Hollywood a'i dilynodd.

Lansiwyd The Matrix yn gyntaf yn Unol Daleithiau America ar 31 Mawr 1999, a chymerwyd dros $460 miliwn yn fyd-eang. Gan fwyaf, fe'i croesawyd gan y beirniaid ffilm,[6][7] ac enillodd 4 Gwobr Academi yn ogystal â nifer o wobrau eraill gan gynnwys Gwobr BAFTA, Gwobr Academi Ffilm Prydain a "Gwobr Sadwrn". Fe'i canmolwyd yn bennaf am ei effeithiau technegol, ei sinematograffi a'i allu i ddiddanu.

Mae'r ffilm wedi ymddangos mewn rhestr o'r ffilmiau ffugwyddonol gorau,[8][9] ac yn 2012 fe'i hychwanegwyd i'r Gofrest Ffilm Cenedlaethol (The National Film Registry) i'w gadw. Oherwydd ei lwyddiant ysgubol, crewyd dwy ffilm dilynol, y ddwy wedi'u sgwennu a'u cynhyrchu gan y brodyr Wachowski: The Matrix Reloaded a The Matrix Revolutions. Datblygwyd masnachfraint hefyd er mwyn cynhyrchu a gwerthu comics, fideos a gemau wedi'u sylfaenu ar y Matrix, dan arweiniad y ddau frawd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gibson, William (28 Ionawr 2003). "The Matrix: Fair Cop". williamgibsonbooks.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-11. Cyrchwyd 13 Awst 2012.
  2. Godoski, Andrew. "Under The Influence: The Matrix". Screened.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-22. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Miller, Laura (December 5, 2002). ""The Matrix and Philosophy" by William Irwin, ed". Salon. Cyrchwyd November 15, 2012.
  4. O'Hehir, Andrew (2 Ebrill 1999). "Short attention spawn". Salon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-23. Cyrchwyd Tachwedd 15, 2012.
  5. "Matrix Virtual Theatre". Warnervideo.com. Warner Bros. Pictures. 6 Tachwedd 1999. Interview with the Wachowski Brothers. Cyrchwyd November 29, 2012. We liked Ghost in the Shell and the Ninja Scroll and Akira in anime. One thing that they do that we tried to bring to our film was a juxtaposition of time and space in action beats.
  6. "The Matrix (1999)". Rotten Tomatoes. Flixster. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2012.
  7. "The Matrix (1999): Reviews". Metacritic. CNET Networks, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-04. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2008.
  8. Heritage, Stuart (21 Hydref 2010). "The Matrix: No 13 best sci-fi and fantasy film of all time". Guardian.co.uk. London: Guardian Media Group.
  9. "Top 25 Sci-Fi Movies of All Time – Movies Feature at IGN". Movies.IGN.com. News Corporation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-24. Cyrchwyd 29 Ionawr 2012.