The Lion King (sioe gerdd)
The Lion King | |
Poster o'r cynhyrchiad ar Broadway | |
---|---|
Cerddoriaeth | Elton John |
Geiriau | Tim Rice |
Llyfr | Roger Allers Irene Mecchi |
Seiliedig ar | Yn seiliedig ar ffilm animeiddiedig Disney, The Lion King |
Cynhyrchiad | 1997 Minneapolis 1997 Broadway 1998 Tokyo 1999 West End 1999 Toronto 2000 Los Angeles 2001 Hamburg 2002 Taith Genedlaethol 2003 Sydney 2004 Yr Iseldiroedd 2005 Melbourne 2006 Seoul 2007 Paris 2007 De Affrica 2008 Taipei 2009 Las Vegas |
Gwobrau | Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau (1998) |
Sioe gerdd ydy The Lion King sy'n seiliedig ar ffilm animeiddiedig Disney o'r un enw. Ysgrifennwyd y gerddoriaeth gan Syr Elton John a'r geiriau gan Tim Rice. Mae'r sioe wedi ennill Gwobr Tony a Gwobr Olivier. Cyfarwyddwyd y sioe gan Julie Taymor ac mae'n cynnwys actorion mewn gwisgoedd anifeiliaid. Cynhyrchwyd y sioe gan Disney Theatrical.
Gwelwyd perfformiad cyntaf y sioe ar 8 Gorffennaf 1997 yn Theatr Orpheum yn Minneapolis, Minnesota a bu'n lwyddiant o'r cychwyn cyntaf. Symudodd i Theatr yr Amsterdam Newydd ar Broadway ar 15 Hydref 1997 gan agor yn swyddogol ar 13 Tachwedd. The Lion King yw'r nawfed sioe sydd wedi rhedeg hiraf ar Broadway.
Yn Llundain, dechreuodd y cynhyrchiad yn Theatr Lyceum yn y West End ar 19 Hydref 1999 ac mae'n parhau i fod yno. Gwahoddwyd yr holl gast i berfformio yn y Perfformiad Amrywiol Brenhinol yn 2008 ym Mhaladiwm Llundain ar 11 Ragfyr, yng ngwydd aelodau o'r Teulu Brenhinol.