Tessie O'Shea

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tessie O'Shea
Ganwyd Teresa Mary O'Shea[1]
13 Mawrth 1913(1913-03-13)
Caerdydd, Sir Forgannwg
Bu farw 21 Ebrill 1995(1995-04-21) (82 oed)
East Lake Weir, Florida, Unol Daleithiau America
Cenedligrwydd Cymru Cymraes
Galwedigaeth Actores
Priod David Rollo

Cantores a cherddores oedd Teresa “Tessie” O'Shea (13 Mawrth 191321 Ebrill 1995).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd, i James Peter O'Shea, milwr oedd yn fab i ymfudwr Gwyddelig a'i wraig Nellie Theresa Carr, magwyd Tessie O'Shea yn nhraddodiad theatr gerdd Prydeinig. Perfformiodd ar lwyfan mor ifanc a chwe mlwydd oed, a hysbysebwyd fel "The Wonder of Wales". Erbyn ei arddegau roedd hi'n adnabyddus am ei darllediadau poblogaidd ar BBC Radio a fe ymddangosodd ar lwyfan ym Mhrydain a De Affrica. Yn aml roedd yn yn gorffen ei act drwy ganu a chware'r banjolele yn arddull George Formby. Tra'n ymddangos yn Blackpool yn y 1930au, fe wnaeth y gorau o'i maint corfforol drwy gymryd "Two Ton Tessie from Tennessee" fel ei arwyddgan. Yn y 1940au roedd yn seren cyson yn y London Palladium a fe sefydlodd ei hun fel artist recordio yn y 1950au. [2] [3]

Gwobr Tony[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1963, fe greuodd Noël Coward rhan y gwerthwr sglodion a physgod "Ada Cockle" yn arbennig ar gyfer ei sioe gerdd Broadway, The Girl Who Came to Supper. Fe wnaeth ei pherfformiad o ganeuon traddodiadol Cockney swyno'r adolygwyr a roedd yn gymorth iddi ennill Wobr Tony am Actores Nodwedd Gorau mewn Sioe Gerdd.[4]

Yn yr un flwyddyn, roedd O'Shea yn westai ar raglen deledu The Ed Sullivan Show. Roedd yn ddigon poblogaidd fel y dychwelodd yn 1964 ar yr un sioe a'r The Beatles. Fe wnaeth ymddangosiad y ddau ar y rhaglen ddenu y gynulleidfa uchaf yn hanes teledu Americanaidd ar y pryd. Roedd yn aelod o'r cwmni sefydlog ar y sioe adloniant byrhoedlog The Entertainers (1964-1965) ar CBS. Yn 1968, cafodd O'Shea ran yn y ffilm deledu The Strange Case of Dr. Jekyll and Mr. Hyde, ac am y rhan hwn fe'i enwebwyd am Wobr Emmy am Berfformiad Rhagorol gan Actores mewn Rhan Gefnogol mewn Drama.[5]

Fe serennodd O'Seah mewn comedi sefyllfa Prydeinig byrhoedlog As Good Cooks Go, rhwng 1969 a 1970. Fe ymddangosodd yn London Town, The Russians Are Coming, the Russians Are Coming, The Blue Lamp, a Bedknobs and Broomsticks gyda Angela Lansbury. Fe ymddangosodd yn rheolaidd ar sioe adloniant hirhoedlog y BBC, The Good Old Days.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw O'Shea o ddiffyg gorlenwad y galon yn 82 mlwydd oed, yn ei chartref yn East Lake Weir, Florida.

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • London Town (1946)
  • The Blue Lamp (1950)
  • The Russians Are Coming, the Russians Are Coming (1966)
  • Bedknobs and Broomsticks (1971)

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Entertainers (1964-65)
  • The Strange Case of Dr. Jekyll and Mr. Hyde (1968)
  • As Good Cooks Go (1969-70)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]