Temperance Town, Caerdydd
Math |
anheddiad dynol ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.476°N 3.179°W ![]() |
Temperance Town, Caerdydd, oedd yr enw answyddogol ar ardal dosbarth gweithiol canol dinas Caerdydd, a sefydlwyd yn yr 1860au ac a ddymchelwyd yn y 1930au i wneud lle ar gyfer Gorsaf Fysiau Caerdydd Canolog.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Adeiladwyd Temperance Town ar dir wedi ei adennill nesaf at Afon Taf. Roedd y tir yn eiddo i'r Cyrnol Edward Wood, llwyrymwrthodwr, a orfododd amodau ar y datblygwr na fyddai gwerthu alcohol yn cael ei ganiatau - sy'n esbonio enw'r ardal. Roedd y mudiad dirwest ar ei anterth y cyfnod.
Datblygwyd y safle yn yr 1860au cynnar; agorwyd ysgolion yn Ionawr 1879 ac adeiladwyd eglwys, St Dyfrig, yn 1888. Roedd y brif heol, Stryd Wood, yn llawn siopau a busnesau eraill. Addaswyd y Neuadd Ddirwest fawr yn Eglwys Annibynnwyr ymhen amser.
Roedd ffyniant Caerdydd yn lleihau ar ddechrau'r 20g oherwydd y dirywiad mewn allforio glo. Cynyddodd y tlodi a gorboblogaeth yn Temperance Town, a gwaethygodd yr amgylchiadau. Yn 1930 adeiladodd y Great Western Railway orsaf drên newydd ar gyrion yr ardal ac roedd y cwmni rheilffordd yn ofni y byddai tlodi amlwg yr ardal yn effeithio ar ei ddelwedd a'i fusnes. Fe wnaeth y cwmni ddwyn perswad ar Gorfforaeth Caerdydd (yr awdurdod lleol) i wella'r ardal; a sicrhaodd y Gorfforaeth (heb ymgynghoriad gyda'r trigolion) Deddf Corfforaeth Caerdydd 1934 i gael y pwerau anghenrheidiol. Roedd y cynlluniau ailddatblygu yn cynnwys cyfleusterau newydd fel gorsaf fysiau.
Ailgartrefwyd trigolion Temperance Town gan y Gorfforaeth mewn tai gwell o fewn ardaloedd eraill o'r ddinas, a dechreuwyd dymchwel yr ardal yn hwyr yn 1937.
Fe ohiriwyd y gwaith ailddatblygu gan Yr Ail Ryfel Byd. Agorwyd yr orsaf fysiau yn 1954; gwnaed Stryd Wood yn lletach gyda rhes o swyddfeydd a siopau. Yn 1958 adeiladwyd pwll nofio, Pwll yr Ymerodraeth, ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn yr un flwyddyn.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Williams, John (2004). Temperance Town. Llundain. Bloomsbury Publishing. ISBN 978-0-7475-7098-1 - nofel wedi ei leoli yn yr ardal
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
Abandoned Communities - Temperance Town. Adalwyd ar 19 Aug 2009.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Empire Pool. Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. Adalwyd ar 5 April 2013.