Tarddiant y frech goch yn Abertawe, 2013

Oddi ar Wicipedia
Tarddiant y frech goch yn Abertawe, 2013
Enghraifft o'r canlynolpla o afiechyd Edit this on Wikidata
Dyddiad2013 Edit this on Wikidata
LleoliadAbertawe, Powys, Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata

Yn Ebrill 2013 cafwyd cynnydd yn y nifer o achosion o'r frech goch yn ardal sir Abertawe, Cymru. Erbyn 16 Ebrill roedd 765 o achosion,[1] a 808 o achosion erbyn 18 Ebrill.[2] Sefydlwyd clinigau brechu dros dro ac anogwyd pobl ar draws Cymru i dderbyn y brechlyn,[3] a chafwyd ymgyrch i frechu plant mewn pedair ysgol uwchradd yn ninas Abertawe ac yng Nghastell-nedd Port Talbot.[4] Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae disgwyl i'r nifer o achosion gyrraedd y brig tua canol mis Mai.[5] Hwn yw'r tarddiant mwyaf o'r frech goch i daro Cymru mewn 10 mlynedd.[6]

Ar 18 Ebrill daethpwyd o hyd i gorff dyn 25 oed yn Abertawe oedd yn dioddef o'r frech goch, y farwolaeth gyntaf o ganlyniad i'r tarddiant.[7]

Yn ôl rhai meddygon ac arbenigwyr, credir i'r tarddiant gael ei achosi gan benderfyniad nifer o rieni i beidio â rhoi brechlyn triphlyg MMR i'w plant gan gredu y gallai achosi awtistiaeth.[8][9] Lledodd y syniad hon gan y meddyg Andrew Wakefield mewn erthygl yn The Lancet ym 1998, ond cafodd ei waith ei brofi'n anghywir a chafodd Wakefield ei ddileu o'r gofrestr feddygol yn 2010 ac felly wedi ei wahardd o weithio fel meddyg yn y Deyrnas Unedig.[10][11] Ar 12 Ebrill 2013 cyhoeddodd The Independent ddatganiad gan Wakefield yn beio'r llywodraeth am y tarddiant yn Abertawe gan nad oedd y llywodraeth yn barod i ddarparu pigiad sengl yn lle'r pigiad triphlyg.[12] Cafodd y feirniadaeth hon ei gwrthod gan Adran Iechyd y Deyrnas Unedig[13] a chafodd The Independent ei gondemnio gan nifer o newyddiadurwyr am gyhoeddi geiriau Wakefield.[14][15][16]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Rhybudd gweinidog am gynnydd mewn achosion o'r frech goch. BBC (16 Ebrill 2013). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  2. (Saesneg) Y frech goch: Cyfanswm o 808. BBC (18 Ebrill 2013). Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.
  3.  2,500 wedi cael brechiad mewn clinigau. BBC (14 Ebrill 2013). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  4.  Y frech goch: Ymgyrch frechu i ysgolion. BBC (15 Ebrill 2013). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  5.  Clefyd: 'Cyrraedd y brig mewn mis'. BBC (12 Ebrill 2013). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  6. (Saesneg) McWatt, Julia (23 Mawrth 2013). Measles outbreak biggest in Wales for a decade... and spreading. WalesOnline. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  7. (Saesneg) Marwolaeth yn Abertawe: Dioddef o'r frech goch. BBC (19 Ebrill 2013). Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.
  8. (Saesneg) Swansea GP blames measles outbreak on MMR fears – video. The Guardian (16 Ebrill 2013). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  9. (Saesneg) Measles: Swansea newspaper not to blame, ex-editor claims. BBC (14 Ebrill 2013). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013. "The South Wales Evening Post reported on worries parents had following a now discredited report which linked the vaccine to autism. Many experts blamed the research and media coverage of it for a drop in vaccinations resulting in an outbreak."
  10. (Saesneg) Meikle, James a Boseley, Sarah (24 Mai 2010). MMR row doctor Andrew Wakefield struck off register. The Guardian. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  11. (Saesneg) General Medical Council, Fitness to Practise Panel Hearing, 24 May 2010, Andrew Wakefield, Determination of Serious Professional Misconduct. General Medical Council. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  12. (Saesneg) Full statement by MMR scare doctor Andrew Wakefield: 'The Government has tried to cover up putting price before children’s health'. The Independent (12 Ebrill 2013). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  13. (Saesneg) Ministry dismisses Andrew Wakefield's criticism over Wales measles outbreak. The Guardian (13 Ebrill 2013). Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  14. (Saesneg) Plait, Phil (14 Ebrill 2013). Andrew Wakefield Tries to Shift Blame for UK Measles Epidemic. Slate. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  15. (Saesneg) Robbins, Martin (13 Ebrill 2013). Giving space to Andrew Wakefield on MMR isn't balance, it's lunacy. New Statesman. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
  16. (Saesneg) Chivers, Tom (13 Ebrill 2013). The Independent should be ashamed of itself for giving Andrew Wakefield a soapbox. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.