Taith awyren MH370 Malaysia Airlines
Enghraifft o'r canlynol | scheduled flight, flight disappearance |
---|---|
Dyddiad | 8 Mawrth 2014 |
Lladdwyd | 239 |
Lleoliad | Môr De Tsieina, Cefnfor India |
Gweithredwr | Malaysia Airlines |
Gwefan | http://www.mh370.gov.my/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Taith awyren ryngwladol o gwmni hedfan Malaysia Airlines a ddiflanodd ar yr 8fed o Fawrth 2014 oedd taith MH370 (a elwir hefyd yn daith CZ748 China Southern Airlines, "MH370", "Taith 370" neu "Daith MH370".) Roedd 227 o deithwyr a 12 o weithwyr o 15 o wledydd yn yr awyren.[1] Diflannodd lai nag awr wedi i'r awyren gychwyn ei thaith a thybir i'r teithwyr i gyd farw. Hyd at Gorffennaf 2015 dyma'r drychineb fwyaf o ran nifer a laddwyd mewn awyren, yn fyd-eang.[2]
Gadawodd MH370 Kuala Lumpur, Malaysia, am 00:41 MST ar 8 Mawrth 2014, ar gyfer taith a drefnwyd i gymryd 6 awr i Beijing, Tsieina.[3] Collodd rheolwyr trafnidiaeth awyr gyswllt efo'r awyren, o fath Boeing 777-200ER, am 01:22, tra'r oedd yn hedfan dros Wlff Gwlad Tai. Cafwyd yr adroddiad cyntaf am y golled am 02:40.
Canolbwyntiodd y rhan fwyaf o'r ymdrechion i ganfod yr awyren ar ardal yn ne Cefnfor India - i'r gorllewin o Awstralia ar sail dadansoddiad o signalau a dderbyniwyd gan loeren yn yr oriau cyntaf ar ôl i'r awyren ddiflannu oddi wrth y radar. Awgrymodd y dadansoddiad cychwynnol y dilynodd yr awyren un o ddau lwybr posibl: y naill i'r gogledd-orllewin a'r llall i'r de-orllewin, ond eithriwyd y llwybr gogleddol yn dilyn ymchwiliadau pellach.
Er y gwnaed ymdrechion rhyngwladol sylweddol i ganfod gweddillion yr awyren (a gostiodd USD $60 miliwn hyd at Fai 2015), ni chanfuwyd dim o sylwedd tan 29 Gorffennaf 2015, pan ganfuwyd rhan o adennyd (flaperon) o Flight 370 ar draeth Ynys Réunion. Ni wyddys pam y diflannodd MH370; ymhlith y rhesymau posibl y mae hunanladdiad y peilot, nam technegol a therfysgaeth.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "8 Mawrth 10:30 AM MYT +0800 Malaysia Airlines MH370 Flight Incident – 3rd Media Statement". Malaysia Airlines. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-18. Cyrchwyd 2 Ebrill 2014.
- ↑ "Malaysia Airlines: experts surprised at disappearance of 'very safe' Boeing 777". The Guardian. 8 Mawrth 2014. Cyrchwyd 11 Mai 2014.
- ↑ "8 Mawrth 04:20 PM MYT +0800 Media Statement – MH370 Incident released at 4.20pm". Malaysia Airlines. 04:20 PM MYT. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-18. Cyrchwyd 8 Mawrth 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)