T. H. White

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
T. H. White
White-in-Boston-CollegeII.jpg
Geni Terence Hanbury White
29 Mai 1906
Bombay (bellach Mumbai), India
Marw 17 Ionawr 1964
Piraeus, Athens, Gwlad Groeg
Galwedigaeth Nofelydd
Addysg Coleg Cheltenham
Gwaith nodedig The Once and Future King

Nofelydd Seisnig oedd Terence Hanbury White (29 Mai 190617 Ionawr 1964). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gyfres o nofelau Arthuraidd, The Once and Future King.

Fe'i ganwyd yn Bombay (bellach Mumbai), India, i rieni Seisnig. Astudiodd yn Lloegr yng Ngholeg Cheltenham, Swydd Gaerloyw, a Choleg y Breninesau, Caergrawnt. Yn Nghaergrawnt ysgrifennodd draethawd ar Le Morte d'Arthur gan Thomas Malory, a graddiodd ym 1928 gyda gradd yn y Saesneg. Roedd yn athro yn Ysgol Stowe, Swydd Buckingham, am bedair blynedd. Ym 1936, gadawodd ei swydd a bu'n byw mewn bwthyn ciper gerllaw, lle ysgrifennodd, ac ymgymerodd â hela, heboca a physgota. Yn ystod y cyfnod hwn ailddarllenodd Le Morte d'Arthur, a dechreuodd ei fersiwn ei hun o stori'r Brenin Arthur, The Sword in the Stone. Ym 1939 symudodd i Swydd Meath, Iwerddon, lle treuliodd yr Ail Ryfel Byd. Ym 1946 symudodd i Alderney, Ynysoedd y Sianel, lle treuliodd weddill ei fywyd.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Loved Helen (1929)
  • The Green Bay Tree (1929)
  • Dead Mr. Nixon (1931) (gyda R. McNair Scott)
  • First Lesson (1932) (fel James Aston)
  • They Winter Abroad (1932) (fel James Aston)
  • Darkness at Pemberley (1932)
  • Farewell Victoria (1933)
  • Earth Stopped (1934)
  • Gone to Ground (1935)
  • England Have My Bones (1936)
  • Burke's Steerage (1938)
  • The Once and Future King
    • The Sword in the Stone (1938)
    • The Queen of Air and Darkness (teitl gwreiddiol The Witch in the Wood, 1939)
    • The Ill-Made Knight (1940)
    • The Candle in the Wind (1958)
  • Mistress Masham's Repose (1946)
  • The Elephant and the Kangaroo (1947)
  • The Age of Scandal (1950)
  • The Goshawk (1951)
  • The Scandalmonger (1952)
  • The Book of Beasts (cyfiethydd, 1954)
  • The Master (1957)
  • The Godstone and the Blackymor (1959)
  • America at Last (1965)
  • The Book of Merlyn (1977)
  • A Joy Proposed (1980)
  • The Maharajah and Other Stories (golygydd Kurth Sprague) (1981)
  • Letters to a Friend (1984)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]