Tȟatȟáŋka Íyotake
| Tȟatȟáŋka Íyotake | |
|---|---|
| Ganwyd | Jumping Badger c. 1831 Afon Grand |
| Bu farw | 15 Rhagfyr 1890 o anaf balistig Dakota Territory |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Galwedigaeth | penadur, medicine man |
| Swydd | penadur |
| Cyflogwr | |
| Tad | Tȟatȟáŋka Napsíca |
| Priod | Light Hair, Four-Robes-Woman, Snow-on-Her, Seen-by-her-Nation, Scarlet Woman |
| Plant | Crow Foot, son of Sitting Bull, William Sitting Bull |
| llofnod | |
Pennaeth llwyth y Sioux yng Ngogledd America oedd Tȟatȟáŋka Íyotake (c.1834 - 15 Rhagfyr, 1890), a adnabyddir yn well dan ei enw Saesneg Sitting Bull. Roedd yn bennaeth llwyth y Hunkpapa, un o lwythi'r Sioux Lakota.

Arweiniodd Tȟatȟáŋka Íyotake y gwrthryfel yn erbyn ymlediad yr Unol Daleithiau yn y Gwastadiroedd Mawr yn yr 1870au. Roedd yn rhyfelwr craff a llwyddiannus a gadwodd y Farchoglu Americanaidd allan o diriogaeth'r Sioux am rai blynyddoedd. Uchafbwynt y rhyfela oedd Brwydr Little Bighorn lle gorchfygodd y lluoedd brodorol dan arweiniad Sitting Bull, y Cadfridog George Custer; lladdwyd Custer a'i filwyr i gyd yn y frwydr.
Wedi iddo dderbyn amnesti ymsefydlodd ar reservation yn Dakota ond fe'i lladdwyd yn ystod gwrthryfel arall yn 1890.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]