George Armstrong Custer

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
George Armstrong Custer
Custer Portrait Restored.jpg
Ganwyd 5 Rhagfyr 1839 Edit this on Wikidata
New Rumley Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Mehefin 1876 Edit this on Wikidata (36 oed)
Achos: Brwydr Little Big Horn Edit this on Wikidata
Montana Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Filwrol yr Unol Daleithiau
Galwedigaeth swyddog Edit this on Wikidata
Priod Elizabeth Bacon Custer Edit this on Wikidata
Llofnod
George Armstrong Custer Signature.svg

Cadfridog ym myddin yr Unol Daleithiau oedd George Armstrong Custer (5 Rhagfyr 183925 Mehefin 1876).

Ganed ef yn New Rumley, Ohio, yn fab i Emanuel Henry Custer (1806–1892) a Marie Ward Kirkpatrick (1807–1882). Aeth i Academi Filwrol West Point, lle graddiodd yn olaf o ddosbarth o 34 cadet yn 1861, yn fuan ar ôl i Ryfel Cartref America ddechrau. Ymladdodd mewn nifer o frwydrau gan wneud enw iddo'i hun fel arweinydd a hoffai ymosod. Dri diwrnod cyn Brwydr Gettysburg yn 1863, apwyntiodd y Cadfridog Pleasonton ef yn frigadydd dros dro. Nid oedd ond 23 oed; un o'r cadfridogon ieuengaf yn y fyddin. Bu ganddo ef a'i ŵyr ran bwysig ym muddugoliaeth Gettysburg.

Wedi diwedd y Rhyfel Cartref bu'n ymladd yn erbyn pobloedd frodorol y Gwastadeddau Mawr. Cafodd ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Little Big Horn gan fyddin o ryfelwyr Sioux, Cheyenne ac Arapaho, dan arweiniad Thasuka Witco ("Crazy Horse"), Gall a Tatanka Lyotake ("Sitting Bull"), er nad oedd yr olaf yn bresennol ar faes y frwydyr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ambrose, Stephen E. (1996 [1975]). Crazy Horse and Custer: The Parallel Lives of Two American Warriors (Efrog Newydd: Anchor Books)