Hunkpapa

Oddi ar Wicipedia
Hunkpapa
Enghraifft o'r canlynolllwyth brodorion Gogledd America Edit this on Wikidata
MathLakota Edit this on Wikidata
Rhan oLakota Edit this on Wikidata
LleoliadGwastadeddau Mawr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tatanka Lyotake

Mae'r Hunkpapa yn fand o frodorion Americanaidd, yn un o saith gangen llwyth y Sioux Lakota. Yn y 1870au, yn y cyfnod pan ymladdai brodorion Americanaidd y Gwastadeddau Mawr yn erbyn yr Unol Daleithiau er mwyn ceisio cadw eu tiroedd a'u hannibyniaeth, ymladdasent gyda'r enwocaf o'i benaethiaid Tatanka Lyotake (Sitting Bull). Heddiw mae mwyafrif y Lakota Hunkpapa yn byw yn Standing Rock Indian Reservation, a leolir yn Ne a Gogledd Dakota. Cawsant eu gorfodi i symud yno ar ôl colli eu tiroedd traddodiadol yn ardal y Bryniau Duon ar ôl cael eu twyllo sawl tro a gorfod ymladd â byddin Unol Daleithiau America.

Mae'r enw "Hunkpapa" yn air Sioux sy'n golygu "Porthwyr" neu "Pen y Cylch"; roedd gan yr Hunkpapa draddodiad o osod eu lletai wrth y fynedfa i gylch y Cyngor Mawr pan gynhelai'r Sioux eu cynadleddau.

Rhai Hunkpapa enwog[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]