Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin
| Yr Ariannin | |||
| Llysenw | La Albiceleste | ||
|---|---|---|---|
| Cymdeithas | Cymdeithas Bêl-droed yr Ariannin | ||
| Conffederasiwn | CONMEBOL | ||
| Prif Hyfforddwr | Lionel Scaloni | ||
| Capten | Lionel Messi | ||
| Mwyaf o Gapiau | Lionel Messi (193) | ||
| Prif sgoriwr | Lionel Messi (112) | ||
| Stadiwm cartref | El Monumental | ||
| Cod FIFA | ARG | ||
| Safle FIFA | 1 (10 Gorffennaf 2025) | ||
| Safle FIFA uchaf | 1 (Mawrth 2007, Hydref 2007 – Mehefin 2008, Gorffennaf – Hydref 2015, Ebrill 2016 – Mawrth 2017, Ebrill 2023 –) | ||
| Safle FIFA isaf | 24 (Awst 1996) | ||
|
| |||
| Gêm ryngwladol gyntaf | |||
(Montevideo, Wrwgwái; 16 Mai 1901) | |||
| Buddugoliaeth fwyaf | |||
(Montevideo, Wrwgwái; 22 Ionawr 1942) | |||
| Colled fwyaf | |||
(Helsingborg, Sweden; 15 Mehefin 1958) (Guayaquil, Ecwador; 16 Rhagfyr 1959) (Buenos Aires, Yr Ariannin; 5 Medi 1993) (La Paz, Bolifia; 1 Ebrill 2009) | |||
| Cwpan y Byd | |||
| Ymddangosiadau | 18 (Cyntaf yn 1930) | ||
| Canlyniad Gorau | Enillwyr: 1978, 1986 a 2022 | ||
| Copa América | |||
| Ymddangosiadau | 38 (Cyntaf yn 1916) | ||
| Canlyniad Gorau | Enillwyr, 1921, 1925, 1927, 1929, 1937, 1941, 1945, 1946, 1947, 1955, 1957, 1959, 1991, 1993, 2021, 2024 | ||
|
| |||


Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin (Sbaeneg: Selección de fútbol de Argentina) yn cynrychioli yr Ariannin yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed yr Ariannin (AFA), corff llywodraethol y gamp yn yr Ariannin. Mae'r AFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed De America, CONMEBOL (Sbaeneg: Confederación Sudamericana de Fútbol, Portiwgaleg: Confederação Sul-Americana de Futebol).
Mae La Selección (y tîm cenedlaethol) neu'r Albicelestes (y glas golau a gwyn), wedi ennill Cwpan y Byd ar dair achlysur: ym 1978 pan cynhaliwyd y bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain, ym 1986 ym Mecsico, ac yto ym 2022 yn Catar
Mae'r Ariannin hefyd wedi ennill y Copa América ar 15 achlysur ac wedi cipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Athens 2004 a Gemau Olympaidd Beijing 2008.
| |||||||||||||||||