System nerfol
Enghraifft o'r canlynol | math o system anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | system o organnau, endid anatomegol arbennig |
Deunydd | meinwe nerfol |
Rhan o | y gyfunderfn niwrofasgiwlar |
Yn cynnwys | prif system nerfol, system nerfol ymylol, Niwron, neuroglia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhwydwaith o gelloedd sydd wedi arbenigo mewn trosglwyddo a phrosesu gwybodaeth o fewn anifail a'i amgylchedd yw'r system nerfol. Mae'n prosesu'r wybodaeth gan achosi ymatebion mewn rhannau eraill o'r corff. Fe'i gwnaed allan o niwronau a chelloedd eraill arbenigol, sef glia, sy'n cynorthwyo'r niwronau i weithio. Caiff y system nerfol ei rannu yn fras yn ddau gategori: y system nerfol ymylol a'r system nerfol ganolog. Mae niwronau yn cynhyrchu ac yn dargludo ysgogiadau rhwng y ddwy system. Y niwronau synhwyro a'r niwronau eraill sy'n eu cysylltu gyda llinynnau'r nerf, madruddyn y cefn (asgwrn cefn) a'r ymennydd yw'r system nerfol canolig. Llinynnau'r nerf, madruddyn y cefn a'r ymennydd yw'r system nerfol ganolog.
Mae niwronau synhwyro, mewn ymateb i ysgogiadau, yn cynhyrchu a lledaenu negeseuon i'r system nerfol ganolog, sydd yn prosesu a dargludo'r signalau yn ôl i'r cyhyrau a'r chwarennau. Mae'r niwronau yn systemau nerfol anifeiliaid yn cysylltu mewn ffurf gymhleth, ac yn defnyddio negeseuon electrogemegol a thrawsyryddion-niwrol i ddargludo'r ysgogiadau o'r naill niwron i'r llall. Mae'r niwronau'n creu cylchedau niwrol, sy'n rheoli sut mae organeb yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn ei gorff ac o'i gwmpas, ac felly'n rheoli ei ymddygiad. Mae'r systemau nerfol i'w chanfod mewn nifer o anifeiliaid amlgellog, ond mae'n amrywio'n fawr rhwng pob rhywogaeth.[1]
Y system nerfol dynol
[golygu | golygu cod]Gellir disgrifio'r system nerfol ddynol yn nhermau anatomeg gros (sy'n disgrifio'r rhannau sydd yn ddigon mawr i'w gweld gyda'r llygaid), ac yn nhermau micro-anatomeg (sy'n disgrifio'r system ar lefel cellog). Mewn anatomeg gros, caiff y system nerfol ei rannu'n organau amlwg, gyda phob organ yn orsaf lle mae'r llwybr niwrol yn croesi. Gellir rhannu'n organau yn ddau system: y brif system nerfol (PSN) a'r system nerfol ymylol (SNY).[2]
Y brif system nerfol
[golygu | golygu cod]Y brif system nerfol (PSN) yw'r rhan fwyaf o'r system nerfol, mae'n cynnwys yr ymennydd a madruddyn y cefn. Mae ceudod y cefn yn dal ac yn amddiffyn madruddyn y cefn, tra bod y pen yn cynnwys ac yn amddiffyn yr ymennydd. Gorchuddir y PSN gan bilenni'r ymennydd (meninges), sef côt amddiffynnol gyda thair haen. Amddiffyninr yr ymennydd gan y benglog yn ogystal, a llinyn yr asgwrn cefn (neu'r 'llinyn arian') gan fertebrau.
Y system nerfol ymylol
[golygu | golygu cod]Y system nerfol ymylol (SNY) yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y strwythurau nerfol sydd ddim yn rhan o'r PSN. Mae cyrff y celloedd nerfol yn gorwedd o fewn y PSN, ynteu yn yr ymennydd neu ym madruddyn y cefn, ac mae prosesau hiraf y celloedd, sef acsonau, yn ymestyn trwy aelodau a cnawd y torso. Ystyrir y rhan fwyaf o'r acsonau, a elwir yn gyffredin yn nerfau, i fod yn rhan o'r SNY.
Lleolir cellgyrff y nerfau afferol o'r SNY mewn ganglia gwreiddiol dorsal o fadruddyn y cefn.
Microanatomeg
[golygu | golygu cod]Mae'r system nerfol wedi'i gyfansoddi o niwronau'n bennaf, ar raddfa fanwl, ond mae celloedd glial hefyd yn chwarae rhan bwysig.
Niwronau
[golygu | golygu cod]- Prif: Niwron
Celloedd a gaiff eu cynhyrfu'n drydanol yn y system nerfol yw niwronau (hefyd nerfgell), sy'n prosesu a throsglwyddo gwybodaeth. Niwronau yw cyfansoddyn craidd y brif system nerfol, gan gynnwys yr ymennydd a madruddyn y cefn o'r fertebratau neu'r llinyn nerfol torrol o'r infertebratau, a'r system nerfol berifferol. Mae nifer o wahanol fathau o niwronau yn bodoli: mae niwronau synhwyraidd (neu afferol) yn ymateb i gyffyrddiad, sain, golau a nifer o ysgogiadau eraill sy'n effeithio'r organau synhwyrol ac yn anfon arwyddion i fadruddyn y cefn a'r ymennydd. Mae niwronau echddygol yn derbyn arwyddion o'r ymennydd a'r madruddyn ac achosi cyfangiad y cyhyrau ac yn effeithio chwarennau, mae rhyngniwronau yn cysylltu'r niwronau gyda niwronau eraill o fewn madruddyn y cefn.
Celloedd glial
[golygu | golygu cod]- Prif: Cell glial
Mae celloed glial yn cefnogi'r niwronau drwy ddarparu maeth, cynnal homeostasis, ffurfio myelin, ac chymryd rhan yn nargludiad arwyddion yn y system nerfol. Yn yr ymennydd dynol, mae amcangyfrif fod glia yn gor-rifo niwronau o tua 10 i 1.[3]
Mae celloedd glial cell yn darparu cefnogaeth ac yn amddiffyn y niwronau. Cânt eu hadnabod fel "glud' y system nerfol. Pedwar prif swyddogaeth y celloed glial yw i amgylchynu'r niwronau i'w dal yn eu lle, i gyflenwi maeth ac ocsigen i'r niwronau, ac i ynysu un niwron oddi wrth y llall, ac i ddinistrio pathogenau a chael gwared ar niwronau marw.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Columbia Encyclopedia: Nervous System. Columbia University Press
- ↑ Anthea Maton (1993). Human Biology and Health. Englewood Cliffs, New Jersey, U.D.A.: Prentice Hall, tud. 132-144. ISBN 0-13-981176-1
- ↑ "sfn.org Society for Neuroscience, 2000". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-21. Cyrchwyd 2008-11-06.