Stand Up For Wales

Oddi ar Wicipedia

Noson gomedi fisol cangen Yes Cymru yn Abertawe yw Stand Up For Wales. Mae'n cael ei chynnal yng nghanol dinas Abertawe.

Cafodd ei sefydlu ym mis Mawrth 2017 fel dull o adloniant rheolaidd, ac fel modd o hybu gweithgarwch y criw bach o gefnogwyr selog.

Denu Dilyniant[golygu | golygu cod]

Yn y cyfnod byr ers ei sefydlu, mae Stand Up For Wales wedi denu wynebau cyfarwydd ar y sîn Gymraeg a Saesneg, ac wedi croesawu nifer o ddigrifwyr sydd wedi perfformio yng ngwyliau comedi Machynlleth a Gŵyl Caeredin, gan gynnwys Steffan Alun, Phil Cooper, Beth Jones, Dan Thomas a Calum Stewart.

Yn Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â'r nosweithiau misol yn Abertawe, cynhaliodd Stand Up For Wales nosweithiau yn nhafarn y Moon yng Nghaerdydd ar gyfer IndyFest, yng nghlwb Buffalo ar gyfer sioeau rhagflas Caeredin ym mis Mehefin, ym Merthyr Tudful ar gyfer lansiad y gangen leol o Yes Cymru, ac yn fwyaf diweddar yn Haf Yes Preseli.

Roedd Stand Up For Wales hefyd yn rhan o ddathliadau Diwrnod Owain Glyndwr Yes Cymru Abertawe yn y Schooner, fis Medi 2017.

Oriel[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]