Phil Cooper

Oddi ar Wicipedia
Phil Cooper
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr stand-yp Edit this on Wikidata

Diddanwr a chomedïwr yw Phil Cooper sy'n perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Phil Cooper yn Y Porth, Rhondda.[1] Mae ei gomedi yn trafod Cymru, ei fagwraeth yng Nghwm Rhondda a pherthnasau.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae Phil yn perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud dau rediad llawn yng Ngŵyl Caeredin,[2] gan gynnwys One Phil Over The Cooper’s Nest yn Awst 2018. Mae hefyd wedi cyfrannu i sesiynau comedi Stand Up For Wales a drefnir gan grŵp Abertawe o Yes Cymru.

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Stand Yp - rhaglen 1 awr o gomedi ar S4C, 2017
  • Gwerthu Allan (sioe i hyrwyddo comediwyr Cymraeg) - S4C​
  • Y lle, sioe ddiwylliant - S4C

Mae wedi ymddangos ar raglen Heno, Jonathan a rhagflas i'r gemau Chwech Gwlad ar BBC Wales.

Radio[golygu | golygu cod]

Mae Cooper wedi ymddangos ar radio yn y Gymraeg a'r Saesneg sawl gwaith gan gynnwys ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio 4

  • Arthur Smiths 'Comedy Club' - BBC Radio 4 Extra [3]
  • New Act Competition - BBC Radio 4
  • Wynne Evans Show - BBC Radio Wales
  • "The Jamie Owen Show" - BBC Radio Wales

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Mae Phil Cooper wedi ennill sawl cystadleuaeth comedi a diddanu.[4]

  • Enillydd - Stand Up Cider
  • Enillydd - Frome's Funniest
  • Rownd gyn-derfynol - So You Think You're Funny
  • Rownd gyn-derfynol - BBC New Act
  • Rownd gyn-derfynol - Welsh Unsigned Stand-up Award
  • Ail - Bath New Act ​

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]