Sian Gibson

Oddi ar Wicipedia
Sian Gibson
GanwydSîan Foulkes Edit this on Wikidata
30 Gorffennaf 1976 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, actor, digrifwr, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata

Actores ac awdures Gymreig yw Sîan Gibson (ganwyd Sîan Foulkes; 30 Gorffennaf 1976). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Peter Kay.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug. Roedd ei thad yn adeiladwr a'i mam yn wraig tŷ. Nid oedd hi'n ystyried ei hun yn berson 'artistig' ond fe ymunodd a'r theatr ieuenctid lleol yn Theatr Clwyd.[2]. Astudiodd gwrs Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Salford, lle cyfarfu ei chyd-fyfyrwyr Peter Kay a Steve Edge.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cyn ei rhan yn Peter Kay's Car Share nid oedd wedi cael clyweliad am unrhyw waith actio ers dros flwyddyn ac roedd hi'n gweithio mewn canolfan alwadau yng Nghaer. Daeth llwyddiant y gyfres a Gibson i lygad y cyhoedd ac fe agorodd y drws ar gyfer mwy o waith actio iddi. Mae ganddi ran sylweddol yn y ddrama gomedi unigol Do Not Disturb gyda Catherine Tate, i'w ddarlledu ar sianel Gold. Dychwelodd mewn ail gyfres o Car Share a recordiwyd yn 2016.[2]

Crëodd ac ysgrifennodd y gyfres deledu gomedi The Power of Parker gyda Paul Coleman ac mae'n actio'r brif ran yn y gyfres ynghyd â Conleth Hill.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod a Ian sydd yn beiriannydd nwy ac mae ganddynt ferch Gracie (ganwyd 2013).[2]

Cydnabyddiaethau[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1997 Peak Practice Sandra Un pennod
1997 Where the Heart Is Cheese Counter Girl Un pennod
1997 The Grand Florence Un pennod
1998-99, 2007 Hollyoaks Tessie Thompson Pedwar pennod
1998 Comedy Lab Alison "The Services"
1999 That Peter Kay Thing Yvonne "Eyes Down"
2000 The League of Gentlemen Trish Dau bennod - "Lust for Royston Vasey", "The One-Armed Man Is King"
2001 Phoenix Nights Mary (ifanc Tri pennod
2002 Emmerdale Suzie Brown Dau bennod
2005 Marian, Again Fiona Ffilm deledu (cydnabyddwyd fel Sian Foulkes)
2008 Britain's Got the Pop Factor... and Possibly a New Celebrity Jesus Christ Soapstar Superstar Strictly on Ice Wendy o'r grŵp, 2 Up-2 Down
2015-2017 Peter Kay's Car Share Kayleigh Kitson cyd-awdur a chrewr


BAFTA am y Comedi Sgriptiedig Gorau
Gwobr NTA am y Comedi Gorau
Enwebwyd-BAFTA am Berfformiad Comedi Benywaidd Gorau

2016 Do Not Disturb Sheila
2017 Hospital People Hillary Cyfres 1 Pennod 2 "The Security Threat"
2017 Murder on the Blackpool Express [4] Gemma Rhan gefnogol
2018 Inside No. 9 Leanne Un pennod - "Bernie Clifton's Dressing Room"
2018 Death in Paradise Gilly Wright
2018 Would I Lie to You? Ei hun Tîm Lee's gyda James Acaster
2018 Death on the Tyne Gemma Rhan gefnogol
2019 Taskmaster Cystadleuydd Cyfres 8

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Meet the actress giving Peter Kay a run for his money", mirror.co.uk; Adalwyd 11 Hydref 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Sian Gibson: From call centre worker to Peter Kay's Car Share". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-01-18.
  3. North Wales actress Sian Gibson admits 'no one knew who I was before Car Share', Daily Post; Adalwyd 18 Ionawr 2016
  4. Guide, British Comedy. "Murder On The Blackpool Express - Gold Comedy Drama". British Comedy Guide.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]