Catherine Tate

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Catherine Tate

Mae Catherine Tate (ganwyd Catherine Ford ar 12 Mai 1968) yn ddigrifwraig ac actores Seisnig. Mae hi wedi ennill amryw o wobrau am ei gwaith ar y rhaglen sgets The Catherine Tate Show yn ogystal â chael ei henwebu am Wobr Emmy Rhyngwladol a phedwar Gwobr BAFTA. Yn sgîl ei llwyddiant, chwaraeodd Tate ran Donna Noble yn rhaglen Nadoligaidd Doctor Who yn 2006 cyn dychwelyd i'r rôl fel cydymaith y Doctor ar gyfer y bedwaredd gyfres yn 2008.