Gwobr Emmy Rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae'r Academi Rhyngwladol ar gyfer y Celfyddydau Teledu a'r Gwyddorau yn cyflwyno'r Gwobrau Emmy Rhyngwladol i'r rhaglenni teledu sydd wedi'u cynhyrchu a'u darlledu'n wreiddiol y tu allan i'r UDA. Ceir pedair ar ddeg categori wahanol ar gyfer y Gwobrau Emmy Rhyngwladol: Rhaglenni Celfyddydol, Perfformiad Gorau gan Actor; Perfformiad Gorau gan Actores; Plant a Phobl Ifanc; Comedi; Materion Cyfoes; Rhaglenni Dogfen; Cyfres ddrama; Sianel Rhyngweithiol; Gwasanaeth Teledu Rhyngweithiol; Newyddion; Adloniant Di-sript; Telenofela; a ffilm deledu/Cyfres fer.

Cyflwynir y gwobrau hyn yng Ngala Gwobrau Emmy Rhyngwladol a gynhelir ym mis Tachwedd yng Ngwesty'r Hilton, Dinas Efrog Newydd. Daw dros 1,200 o bobl o'r diwydiant i ddathlu rhagoriaeth ym myd y teledu.