Peter Kay

Oddi ar Wicipedia
Peter Kay
Ganwyd2 Gorffennaf 1973 Edit this on Wikidata
Farnworth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Salford
  • Mount Saint Joseph High School
  • Norfolk Collegiate School
  • Mount St Joseph
  • Bolton College Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, actor, sgriptiwr, digrifwr stand-yp, actor ffilm, canwr, cynhyrchydd ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwobr/auBritish Academy Television Award for Best Male Comedy Performance Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.peterkay.co.uk Edit this on Wikidata

Mae Peter John Kay (ganwyd 2 Gorffennaf, 1973) yn ddigrifwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd ac actor Seisnig. Mae ei waith yn cynnwys That Peter Kay Thing (2000), Phoenix Nights (2001), Max and Paddy's Road to Nowhere (2004), Britain's Got the Pop Factor... (2008) a chynhyrchiadau annibynnol eraill.

Ganwyd Kay yn Farnworth, Swydd Gaerhirfryn, a mynychodd Ysgol Uwchradd Mynydd San Joseph. Gadawodd yr ysgol gyda un TGAU yng Nghelf. Wedi iddo adael, cafodd swyddi amrywiol gan gynnwys gweithio mewn ffatri papur tŷ bach, archfarchnad Netto a Neuadd Fingo, a ysbrydolodd rhaglenni neu ddigwyddiadau yn That Peter Kay Thing. Dechreuodd gwrs gradd ym Mhrifysgol Lerpwl ond ni allai ymdopi â'r gwaith ysgrifenedig ac felly gadawodd. Aeth ymlaen i astudio Diploma Cenedlaethol Uwch yn Perfformio yn y Cyfryngau ym Mhrifysgol Salford a chwblhaodd y cwrs. Roedd y cwrs hwn yn cynnwys hiwmor sefyll i fyny, rhywbeth y rhagorai Kay ynddo. Cafodd ei brofiad cyntaf o berfformio hiwmor sefyll i fyny mewn cystadleuaeth ym Manceinion, a diddorol yw nodi mai cyflwynydd y noson oedd Dave Spikey a ysgrifennodd Phoenix Nights ar y cyd a Kay. Enillodd Kay y gystadleuaeth, gan faeddu ei gyd-ddigrifwr Johnny Vegas.

Ffilmograffiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]