Siôn Eos

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Telynor o ardal Maldwyn, gogledd Powys, oedd Siôn Eos (bl. ail hanner y 15g). Mae'n adnabyddus heddiw oherwydd y cywydd marwnad enwog iddo gan Dafydd ab Edmwnd a ystyrir yn un o uchafbwyntiau canu Beirdd yr Uchelwyr.

Ein prif ffynhonnell am Siôn Eos yw ei farwnad. Telynor wrth ei alwedigaeth oedd Siôn. Bu mewn ffrwgwd yn Swydd y Waun a orffenodd gyda Sais yn anafiedig a bu farw hwnnw yn nes ymlaen. Yn ôl Dafydd ab Edmwnd, lladd ar ddamwain neu er mwyn amddiffyn ei hun oedd hyn. Safodd Siôn ei brawf o flaen rheithgor yn Swydd y Waun yn unol â'r gyfraith Seisnig a chafodd ei ddedfrydu i'w grogi. Yn y cyfnod hwnnw yn y Gororau a sawl rhan arall o Gymru roedd Cyfraith Hywel yn dal mewn grym ar lefel lleol a chredai ei deulu a'i gyfeillion mai o dan y drefn Gymreig y gwrandewid ei achos; roedd galanas (arian iawndal) wedi ei gasglu yn barod erbyn yr achos llys. Gwrthododd y rheithgor hynny a chrogwyd Siôn Eos.

Cwyna Dafydd ab Edmwnd am yr angyfiawnder a gafodd y telynor Cymreig dan y drefn Seisnig. Roedd ei ladd fel hyn yn golled i gelfyddydd Cerdd Dant:

Torres braich tŵr Eos brig,
Torred mesur troed musig;
Torred ysgol tŷ'r desgant,
Torred dysg fal torri tant.[1]

Yna daw'r cwpled enwog,

Ti sydd yn tewi â sôn,
Telyn aur telynorion.[1]

Dedfryd yn erbyn moesoldeb oedd cymryd bywyd am fywyd fel hyn hefyd ac mae'r gerdd yn gri yn erbyn y gosb eithaf hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg, tud. 140.

Marwnad Siôn Eos[golygu | golygu cod y dudalen]

Y testun ar wicilyfrau: