Shehu Shagari

Oddi ar Wicipedia
Shehu Shagari
Ganwyd25 Chwefror 1925 Edit this on Wikidata
Shagari Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 2018 Edit this on Wikidata
Abuja Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNigeria Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Barewa College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Nigeria, Gweinidog Cyllid Nigeria Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNational Party of Nigeria Edit this on Wikidata
PlantMuhammad Bala Shagari Edit this on Wikidata
PerthnasauMuktar Shagari Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Nigeria oedd Alhaji Shehu Usman Aliyu Shagari (25 Chwefror 192528 Rhagfyr 2018) a oedd yn Arlywydd Nigeria o 1979 i 1983.

Bywyd cynnar ac addysg (1925–51)[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn nhalaith Sokoto yng ngogledd-orllewin Nigeria, mewn pentref a enwir Shagari a sefydlwyd gan ei orhendad. Cymerodd y teulu eu henw oddi ar y pentref. Ffermwr a masnachwr gyda sawl gwraig oedd ei dad. Mynychodd yr ysgol Goranaidd leol cyn iddo astudio yng Ngholeg Kaduna (heddiw Coleg Barewa) in Zaria, talaith Kaduna.[1]

Gyrfa wleidyddol gynnar (1951–79)[golygu | golygu cod]

Gweithiodd Shagari am gyfnod fel athro cyn iddo ddod yn wleidydd yn 1951. Fe'i etholwyd yn aelod ffederal o Dŷ'r Cynrychiolwyr yn 1954, pan oedd y wlad dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Wedi i Nigeria ennill ei hannibyniaeth yn 1960, gwasanaethodd Shagari yn weinidog ym mhob un weinyddiaeth, dros yr economi, pensiynau, a materion mewnwladol, nes coup d'état gan y fyddin yn 1966. Dychwelodd Shagari i Sokoto a gwasanaethodd yn y llywodraeth leol am gyfnod. Yn 1971, symudodd yn ôl i Lagos i fod yn gomisiynydd ffederal dros ddatblygiad economaidd dan lywodraeth y Cafridog Yakubu Gowon, ac yn ddiweddarach gweinidog arianneg.[1]

Wrth i'r arweinydd Olusegun Obasanjo ddatgan y byddai'r fyddin yn trosglwyddo'r llywodraeth yn ôl i'r sifiliaid, sefydlodd Shagari blaid wleidyddol newydd, Plaid Genedlaethol Nigeria. Fe'i dewiswyd yn ymgeisydd y blaid ar gyfer etholiad arlywyddol Ebrill 1979. Enillodd yr etholiad gyda rhyw 34% o'r pleidleisiau.[1]

Arlywyddiaeth (1979–83)[golygu | golygu cod]

Er i Shagari addo fuddsoddi i wella isadeiledd a'r cyflenwad tai i bobl tlawd, cafodd cyllideb y llywodraeth ei daro'n drwm gan ostyngiad prisiau olew yn 1981. Ceisiodd Shagari wella'r economi drwy gwtogi ar wariant cyhoeddus, cynyddu tollau mewnforio, ac alltudio gweithwyr tramor. Cafodd ei benderfyniad i yrru rhyw dwy filiwn o weithwyr estron, y mwyafrif ohonynt o Ghana, o'r wlad effaith negyddol ar gysylltiadau rhwng Nigeria a gwledydd eraill yng Ngorllewin Affrica. Enillodd etholiad 1983 yn sgil cystadleuaeth chwerw. Ar 31 Rhagfyr 1983, cafodd ei ddisodli mewn gwrthryfel milwrol dan arweiniad yr Uwchfrigadydd Muhammadu Buhari.[1]

Wedi'r arlywyddiaeth (1983–2018)[golygu | golygu cod]

Wedi i'r fyddin gipio grym, cafodd Shagari ei arestio a'i gadw yn y ddalfa am dair mlynedd. Cafodd ei ddifeio'n swyddogol o gyhuddiadau o lygredigaeth, er iddo gael ei wahardd rhag ymwneud â gwleidyddiaeth Nigeria am weddill ei oes.[1]

Bu farw yn 93 oed yn Abuja.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mwslim Swnni oedd Shagari, a oedd yn hoff o wisgo'i ddillad Islamaidd. Roedd ganddo bedair gwraig, a niferoedd mawr o blant ac wyrion ac wyresau.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Paul Legg, "Shehu Shagari obituary", The Guardian (9 Ionawr 2019). Adalwyd ar 10 Ionawr 2019.
  2. (Saesneg) Alan Cowell, "Shehu Shagari, Nigerian President During ’80s Oil Crisis, Dies at 93", The New York Times (29 Rhagfyr 2018). Adalwyd ar 10 Ionawr 2018.