Muhammadu Buhari
| Muhammadu Buhari | |
|---|---|
| Arlywydd Nigeria | |
| Yn ei swydd 29 Mai 2015 – 29 Mai 2023 | |
| Is-Arlywydd | Yemi Osinbajo |
| Rhagflaenwyd gan | Goodluck Jonathan |
| Dilynwyd gan | Bola Tinubu |
| 7fed Arweinydd Nigeria | |
| Yn ei swydd 31 Rhagfyr 1983 – 27 Awst 1985 | |
| Rhagflaenwyd gan | Shehu Shagari |
| Dilynwyd gan | Ibrahim Babangida |
| Llywodraethwr Talaith y Gogledd-Ddwyrain | |
| Yn ei swydd Awst 1975 – Mawrth 1976 | |
| Rhagflaenwyd gan | Musa Usman |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 17 Rhagfyr 1942 Daura[1][2] |
| Bu farw | 13 Gorffennaf 2025 (82 oed)[3] Llundain |
| Cenedligrwydd | Nigeriad |
| Plaid wleidyddol | All Progressives Congress |
| Priod |
|
| Plant | 10
|
| Alma mater |
|
| Gwefan | thisisbuhari.com |
| Military service | |
| Teyrngarwch | |
| Gwasanaeth/cangen | Byddin Nigeria |
| Blynyddoedd o wasanaeth | 1961–1985 |
| Rheng | Uwch-frigadydd |
Gwleidydd o Nigeria oedd Muhammadu Buhari GCFR (17 Rhagfyr 1942 – 13 Gorffennaf 2025). Bu'n Arlywydd Nigeria rhwng 2015 a 2023.[5] Cyn ei benodi'n Arlywydd roedd yn Uwch-frigadydd ym myddin y wlad ac yn bennaeth y wladwriaeth rhwng 31 Rhagfyr 1983 a 27 Awst 1985 wedi i'r fyddin greu clymblaid milwrol (neu 'jynta') yn dilyn coup d'état gan y fyddin.[6][7] Defnyddir y term "Buharism" i ddisgrifio llywodraeth filwrol y cyfnod.[8][9]
Bu'n llwyddiannus yn etholiadau Arlywyddiaeth Nigeria yn 2003, 2007 a 2011. Yn Rhagfyr 2014 daeth i'r brig fel ymgeisydd yr All Progressives Congress ar gyfer etholiadau Mawrth 2015. Cafodd ei ethol yn Arlywydd, gan drechu Goodluck Jonathan. Dyma'r tro cyntaf i arlywdd yn Nigeria drosglwyddo'r awenau i arlywydd arall, heb ymyrraedd filwrol na threisiol ac o dan drefn ddemocrataidd a theg.[10]
Cafwyd beirniadaeth, dros y blynyddoedd, ei fod wedi mynd yn groes i hawliau dynol ei ddinasyddion, drwy garcharu'r rhai oedd yn ei wrthwynebu. fel ymateb i'r feirniadaeth hon, yn 2015, dywedodd y bydd yn dilyn llythyren y ddeddf ac y bydd pob Nigeriad yn cael mynediad i gyfiawnder y gyfraith ac y perchir hawliau dynol pob dinesydd y wlad.[11]
Bu farw, yn Llundain, yn 82 mlwydd oed.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Muhammadu Buhari Presidential Candidate". thisisbuhari.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-15. Cyrchwyd 2015-02-08.
- ↑ "Muhammad Buhari". Enyclopaedia Britannica. Cyrchwyd 2015-02-08.
- ↑ "BREAKING: Former President Muhammadu Buhari dies in London". Vanguard Nigeria. 11 Gorffennaf 2025.
- ↑ "Famous U.S. Army War College Alumni". Ranker.com. Cyrchwyd 1 Ebrill 2015.
- ↑ Colin Freeman (31 Mawrth 2015). "Muhammadu Buhari claims victory in Nigeria's presidential elections". The Telegraph. Cyrchwyd 31 Mawrth 2015.
- ↑ "Military Regime of Buhari and Idiagbon". Cyrchwyd 12 Medi 2013.
- ↑ Max Siollun (Hydref 2003). "Buhari and Idiagbon: A Missed Opportunity for Nigeria". Cyrchwyd 12 Medi 2013.
- ↑ Sanusi Lamido Sanusi (22 Gorffennaf 2002). "Buharism: Economic Theory and Political Economy". Lagos. Cyrchwyd 12 Medi 2013.
- ↑ Mohammed Nura (14 Medi 2010). "Nigeria: The Spontaneous 'Buharism' Explosion in the Polity". Leadership (Nigeria). Cyrchwyd 12 Medi 2013.
- ↑ Buhari, Muhammadu (26 Chwefror 2015). Prospects for Democratic Consolidation in Africa: Nigeria's Transition (Speech). Chatham House, Llundain.
- ↑ "My contract with Nigeria – Buhari".
- ↑ "Former Nigerian leader Muhammadu Buhari dies aged 82". BBC News (yn Saesneg). 2025-07-13. Cyrchwyd 2025-07-13.