Sgwrs Defnyddiwr:Rhyshuw1/Archif 2

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Nodyn ar y 24 mesur ar hugain[golygu cod]

Wnei di gymryd golwg ar Sgwrs Nodyn:24 mesur os gweli di'n dda. Mae dy angen di! Diolch. Ac os wyt ti'n rhy brysur, paid a phoeni, mi wna i drio troi fy llaw ato - a watch out wedyn! Llywelyn2000 22:36, 10 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Fel y dywedais mewn man arall, diolch i ti am dy waith ar y Nodyn: 24 mesur a'r un llenyddiaeth etc etc!!! Gwych. Wnei di gymryd cip ar sgwrs Sgwrs:Pelydr-X os g di' dda? Llywelyn2000 14:36, 12 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Nodyn "Afiechydon" a Nodyn "Llysiau"[golygu cod]

Dwi wedi dehrau creu erthyglau ar "Afiechydon" (dynol). Tybed wnei di greu Nodyn newydd, ffres? Felly hefyd ar "Llysiau" os gweli di'n dda - os gei di funud. Does dim brys.

Mi weli di'r ddau ar:

Rhestr o afiechydon a phlanhigion gyda rhinweddau meddygol

Can diolch, Rhys. Llywelyn2000 06:19, 14 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Iawn, yr unig problem oedd (dwi'n credu fy mod wedi sortio!) yw bod y nodyn:LlywioDewislen ond yn gadael wyth pennawd. Bydd angen llawer fwy ar gyfer yr un afiechydon ac felly dwi di creu nodyn:llywiodewislen2 ar gyfer blychau sydd angen fwy o bennawdau. Nai treial gwneud nhw erbyn heno. Hwyl, Rhys Thomas 10:44, 14 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych yn wych,Rhys. Go dda! Dwi am ei defnyddio ar erthyglau ar "Afiechydon" ond dwi ddim yn siwr am eu rhoi ar erthyglau "llyasiau rhinweddol" gan y bydd angen nodyn arferol "Llysiau" Efallai y gallaf roi'r ddau. Dwn i ddim a ydyw rhoi dau yn beth da chwaith? Llywelyn2000 14:38, 14 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Sorri, Rhys, beth am roi Nodyn:Afiechyd ar ddiwedd (ac o fewn i) Nodyn:Gwybodlen Afiechyd? A gan fod y rhestr afiechydon mor hir, efallai ei guddio a chael y defnyddiwr i'w 'weld'. Dwi wedi gwneud hyn unwaith, ddwywaith, ond mi gymrith hi ddiwrnod cyfan i mi ei wneud! Llywelyn2000 06:10, 16 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Dwi di cael go arno fe, ond yn anffodus heb llwyddiant. Chi di gweld unrhywbeth tebyg o'r blaen? Yn y cyfamser, nai newid y nodyn mawr hir afiechydon i un sy'n dangos a cuddio (fel yr un nodyn:24 mesur. Hwyl, Rhys Thomas 14:23, 16 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Help plis![golygu cod]

Dwi wedi gweld map o wledydd Prydain gen ti - un gwych iawn gyda'r enwau mewn testun arno yn ddolenni / hotspots. Mi driais innau ar Teyrnasoedd Cymru a methu! Dwi wrthi efo Paint Shop Pro ers dros 10 mlynedd (credi neu beidio!) ond erioed wedi delio efo ffeiliau png. Ynteu ai o fewn Wici wyt ti'n creu'r dolenni? Mae gen i lot i'w ddysgu! Llywelyn2000 12:16, 1 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n defnyddio Paint shop pro hefyd- mae'r un sydd gen i yn un hen ond mae'n gwneud y tro! Rwy'n defnyddio ffeiliau .png am y rheswm syml mae'r safon yn dda. Dwi wedi ffeindio bod golygu lluniau ac yna arbed y ffeil ar ffurf .jpg yn achosi i'r safon dirywio. Dwi hefyd yn defnyddio inkscape ar gyfer golygu ffeiliau .svg. Map blanc sydd eisiau i ddechrau bant- cefais un fi o'r Categori Mapiau DU- Wikipedia commons ac yna newid y lliwiau yn paint shop pro. Mae'r labeli yn dod o wicipedia, dwi di roi tair esiampl i chi chwarae o gwmpas arno yn y Pwll tywod. Mae'n ddigon hawdd i'w ddeall ond mae'r golygu yn cymryd tipyn o amser (rhaid cael y label yn y lle cywir trwy newid yr echelinau x a y- jyst lot o gynnig a gwella! Pob lwc, Rhys Thomas 12:55, 1 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Rhys. Ble mae'r botwm i ychwanegu testun a ble mae'r botwm echelinau rwyt ti'n son amdano? "A Bedwyr a welodd ddim byd ond dwr!" Llywelyn2000 04:52, 2 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Rhag ofn na all Rhys ymateb heddiw, dw i'n meddwl mae'r echelinau yw'r x a'r y yn cod canlynol, ac mae'n rhaid i ti ddyfalu ac arbrofi nes cael nhw i'r safle cywir, a'r rhan ar ddiwedd y linell yw'r testun:
{{Image label begin|image=CymruWales.png|Cymru|width={{{width|400}}}|float={{{float|none}}}}}
{{Image label small|x=0.51|y=0.33|scale={{{width|400}}}|text=Gwynedd}}
Mae'r mapiau'n edrych yn wych gyda llaw, Rhys.--Ben Bore 07:35, 2 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Rhys, you took the words right out of my mouth! Rhys Thomas 14:00, 3 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch eich dau! Wnes i ddim edrych o dan yr wyneb! Cyntefig iawn! OMG. Ond, yn eironig, mae nhw'n edrych yn dda! Diolch. Llywelyn2000 23:40, 3 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Faset ti'n cymryd cip ar: Sgwrs:Cymru (etholaeth Senedd Ewrop), os gweli di'n dda. Mae lliw y tabl diwethaf wedi diflannu. O Wiki Saesneg y daeth. Diolch. Llywelyn2000 21:53, 10 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Paid a phoeni; mae'r cyfan yn enfys o liw! Llywelyn2000 22:39, 11 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Sori- o ni jyst di anghofio ymateb! Hwyl, Rhys Thomas 15:55, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Dy farn doeth os gweli di'n dda?[golygu cod]

Wnei di gymryd cip ar: Sgwrs:Brythoniaid os gweli di'n dda. Hefyd, ydy'r map yn rhy fawr, dywed? Diolch. Llywelyn2000 22:39, 14 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych yn iawn, oni bai am y rhifau o dan y llun- sai'n gallu cael gwared â nhw! Efallai bydd yn well hefyd os mae'r codau ar ben yr erthygl yn cael ei rhoi mewn i nodyn- jyst i wneud pethau'n fwy trefnus! Pob hwyl, Rhys Thomas 23:08, 14 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Rhys! Llywelyn2000 10:33, 15 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Eisiau ffafr![golygu cod]

Haia Rhys, Eisiau gofyn ffafr (enfawr) ydw i i fod yn onest. Os gei di gyfle, a fyddai modd i ti greu cwpwl o Nodau i fi? Dw i wedi trio ond fi gymaint o wew pan mae'n dod i'w creu nhw a 'dyn nhw byth yn gweithio pan dw i'n trio! Yr hyn bydden i'n dwli cael yw Gwybodlen Sioe Gerdd a Gwybodlen Awdur. 'Na beth hoffwn i wneud fyddai mynd i erthygl a copio a pasto'r gwybodlen yn syth mewn i erthyglau eraill (fel dw i'n gwneud gyda'r gwybodlen gwnest ti ar gyfer dinasoedd). Os oes arholiadau gyda ti neu dy fod yn brysur, dim problem ond os oes moment sbar 'da ti a dim byd gwell i'w wneud, byddai hwnna'n ffab. Gobeithio nad ydw'n bod yn rhy cheeky! :-) Diolch!! Rhodri77 19:00, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Dim problem o gwbl! Dwi allan heno- edrychai arnynt nos fory! Pob hwyl, Rhys Thomas 19:53, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Mae hwnna'n ffantastig Rhys! Dw i wedi defnyddio'r wybodlen sioe gerdd ar y dudalen Cats (sioe gerdd) ac mae'n edrych lot gwell yn barod. Byddai'n gwneud mwy heno. Diolch i ti am dy arbenigedd a'th barodrwydd i helpu!! Rhodri77 13:18, 19 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Disgwyliad bywyd[golygu cod]

Ydw i'n gywir yn dweud, Rhys, fod y dudalen Disgwyliad bywyd hefyd yn bodoli o dan enw arall, a honno wedi'i chreu gen ti tua 6 wythnos yn ol? ON Sut aeth yr arholiadau? Llywelyn2000

Na, efallai taw'r erthygl Cyfradd marw chi'n meddwl am. Roedd yr arholiadau yn oke.... efallai bydd angen ail-eistedd rhai, ond mae yna ddigon o amser dros y flwyddyn nesaf i gwneud hynny! Hwyl, Rhys Thomas 13:26, 22 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Ia! Dyna fo! Mae'n rhaid fod y co'n dechrau drysu... Diolch i ti. Dim coleg, felly, blwyddyn sabathol? Llywelyn2000 21:45, 22 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Na, dwi yn y chweched dosbarth ac mae gen i flwyddyn arall i fynd yn yr ysgol yn anffodus! Rwy'n gobeithio fynd i Brifysgol Aberystwyth i wneud ffiseg yn 2010. Nos da, Rhys Thomas 22:27, 22 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Help eto gyda'r Nodyn[golygu cod]

Wnei di gymryd golwg ar: Be My Valentine! (Anti-Crisis Girl) os g yn dda? Diolch Rhys. Llywelyn2000 23:21, 30 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]



Just trying to edit, in Welsh. Have used Babel Fish etc for assisting me in translating in Spanish and Italian (I do have a reasonable grasp of these languages) and have found them to work well 99% of the time. Had to go to a more obscure one for Welsh language, which obviously doesn't work. Oh well, you live and learn. Ta, Mtaylor848 17:09, 16 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Thanks anyway...just give a shout if you want anything translated, Rhys Thomas 17:14, 16 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Gwybodlen eisteddfod[golygu cod]

Bron i ddwy flynedd yn ôl, awgrymais i byddai cael gwybodlen ar gyfer eisteddfod yn cŵl (yn cynnwys stats fel, nifer ymwelwyr, cost cynal, a phethau fel pwy oedd yr archdderwydd a Ceidwad y Cledd etc). Doedd neb yn gwrthwynebu, dim ond poeni am y gwaith hel manylion. Efallai byddai'n werth dechrau o eleni ymlaen (fel ti newydd wneud), a llenwi blancs y gorffenol fel mae gan rhywun yr amynedd. Dau bwynt pedantig:

  • 'gwefan' ydy website, nid 'wefan'. Mae'r 'g' yn diflannu mewn brawddeg pan mae angen treiglo, ond byth pan mae'r gair ar ddechrau brawddeg neu ar ben ei hun.
  • Er bod gwefan y BBC yn llawer gwell a mwy cynhwysfawr, dw i' n meddwl mai dolen at wefan swyddogol yr eisteddfod ddylai fod ar y wybodlen.

--Ben Bore 14:08, 27 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Nai helpu allan- mae'r erthyglau eisteddfod ychydig yn denau! Y rheswm am rhoi wefan eisteddfod y BBC ar yr erthygl yw oherwydd mae'r prif wefan eisteddfod yn cael ei diweddaru'n flynyddol ac nid oes unrhyw hanes o eisteddfodau'r gorffenol ar y wefan yno. Hwyl, Rhys Thomas 14:53, 27 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Mae gwefan y BBC yn gan gwaith gwell, ond gan bod gwefan swyddogol yn bodoli, dw i'n meddwl hynnw ddylai fod yn y wybodlen. Mae rhestr lleoliadau ac ennillwyr prif gystadleuthau gorffenol i'w cael arno - rhywbeth y gelli'r ei drosglwyddo yma mewn amser.--Ben Bore 19:42, 27 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
<yn gostwng ei lais>
dyma sneak preview o wefan sy'n mynd i gael ei lawnsio mewn rhai dyddiau, a bydd rhaid rhoi ::dolen ato ar yr erthygl dan sylw hefyd...
</sssshhhh>--Ben Bore 19:42, 27 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Nodyn:Gwybodlen[golygu cod]

Dwi 'di symud fy fersiwn i i Nodyn:Gwybodlen/cymhleth, ac adfer dy fersiwn ti ar Nodyn:Gwybodlen. Ymddiheuriadau am y cymhlethdod. Hwyl, --Adam (Sgwrs) 16:09, 14 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Pa hwyl efo'r Lefel A?[golygu cod]

Heb ddatgelu'r manylion ayb... gest ti ganlyniadau iawn yn dy Lefel A? Llywelyn2000 18:18, 23 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Na!!!! Ond rwy'n ffodus taw'r cyfle cynta oedd y rhain! Mae gen i flwyddyn arall ar ol yn yr ysgol tan y lefelau A go iawn! Cefais 1 C a 3 D (Crap!)

Efallai canolbwyntiais gormod ar wiki!- Mae gen i lot o waith i wneud y flwyddyn nesa! Hwyl, Rhys Thomas 08:26, 29 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Wel mae gen ti ddigon o allu. Dal ati! Llywelyn2000 19:15, 30 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Hi diolch am dy neges. Pob lwc gyda dy lefelau A ar yr ail dro, maen nhw'n bwysig iawn felly rwyt ti'n gwneud yn dda i dreulio llai o amser ar wicipedia os mae angen er mwyn gwella dy ganlyniadau, 'dwi'n gobeithio fy mod i'n gwneud synnwyr, syniad drwg ydy hi imi fynd ar wicipedia wedi yfed potel o gwrw cryf efallai ;_) Alan 19:02, 5 Hydref 2009 (UTC)[ateb]

Yr UD[golygu cod]

Pam ydych chi wedi dileu fy nghysylltiad o "yr UD" i "UDA"?

Os dw i'n mynd i'r seit saesneg ac yn teipio "the US", mae'n mynd i "United States", yr unig wahaniaeth ydy ei fod yn gweithio'n awtomatig heb raid clicio ar y cysylltiad

mmm... dwi wedi sylwi rhywbeth diddorol... yn fy neges atoch chi, sgwennais i "y DU" yn lle "yr UD". camgymeriad odd wrth gwrs, a dw i wedi ei gywiro erbyn hyn, OND, os dw i'n ceisio "y DU", mae'n mynd i "y Deyrnas Unedig" neu beth bynnag. Pam llai gyda'r UDA felly?

Mae'n gweithio rwan, peidiwch a'i ddileu os gwelwch yn dda, diolch. -- More data added, 15 Tachwedd 2009

Nid dyna yw'r ffordd o greu ailgyfeiriad. Mae yna ffwythiant wici sy'n gwneud ailgyfeiriad yn syth. Dyma yw'r cod. #REDIRECT [[Rhowch destun di-fformatedig yma]]. Rhys Thomas 22:59, 16 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Y wiwer wen[golygu cod]

S'mae Mr Thomas. Dwi'm yn siwr a ddylwn i eich diolch chi am y bygythiad i fy "mlocio" neu beidio, ond gawn ni drafod pethau. Dwi'n gweld bod llawer o olygwyr am wneud yr erthyglau yn sych iawn - bob tro dwi'n ychwanegu unrhywbeth o unrhyw sylwedd, mae rhywun yn dod allan o'r gwaith coed i'w ddadwneud. Dim ond y golygiadau mwyaf dibwys a wnes i sydd wedi cael eu cadw: dinistriwyd y gweddill gan yr Heddlu Feddwl. Ond fedrech chi fy hysbysu: ble ga i ddarllen copi o'r rheolau yn erbyn barnau personol rydych chi'n siarad amdanynt, a phwy ddyfeisiodd y rheolau yn y lle cyntaf? Ydych chi un o berchenogion y wefan gyda llaw? Dwi'n barod i barchu'r rheol honno os fedrwch chi fy mherswadio mai rheol go iawn ydy hi, ond dwi ddim wedi gweld digon o dystiolaeth o hynny eto. Os dwi'n teipio "rheolau" i mewn i'r blwch chwilio, mae'n dod o hyd i lawer o gyfeiriadau at reolau mewn erthyglau, ond dim o gwbl am reolau'r wefan ei hun. Diolch am eich help.

Mae'n rhaid i'r ffeithiau sydd ar Wici fod yn wir. Mae'n adnodd wych i ysgolion Cymru - a phopeth sydd arno am ddim. Mae rhai o'r pethau rydych wedi ei wneud yn anghywir a dweud y gwir mae nhw reit fabiadd. Dadleuwch yn deg dros yr hyn rydych yn ei gredu ar y dudalen Sgwrs yn gyntaf. I ateb y cwestiwn olaf gennych: ewch i'r fwydlen chwith, top (CYMORTH). Ysgol Rhiwabon 13:26, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Diolch - gwna i edrych ar y dudalen cymorth. Ond rhaid i mi ddweud - mae pobl wedi dileu mwy na fy marn - maen nhw wedi dileu ffeithiau hefyd, e.e. y ffaith na bod Lloegr wedi ennill y chwe gwlad ers 2003. Felly hyd yn oed os oes rheol yn erbyn barn, nid ydy'n cyfiawnhau dileu ffeithiau.

Dwi wedi dod o hyd i'r dudalen am bolisiau a chanllawiau, a dyna beth mae'n dweud:
"y dylai'r erthygl gynrychioli o leiaf dwy farn gwahanol"
Ar hyn o bryd 'dyn nhw ddim yn cynrychioli unrhyw barn o gwbl, er bod y polisi yn galw am iddyn nhw gynrychioli barnau. Dwi wedi ychwanegu un farn i gychwyn, a chychwi cewch ychwanegu'r ail yn hytrach na dileu'r gyntaf.
Nid oes angen rheolau ysgrifenedig- maent yn synnwyr cyffredin. Mae "Dydyn nhw ddim wedi ennill y 6 Gwlad ers 2003 ha ha." yn cynnwys gwallau iaith ac yn hynod o anaeddfed- dyna pham dileer eich cyfraniad. Rhys Thomas 18:51, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Ers pryd oedd gwallau iaith yn rheswm i ddileu hysbysrwydd? Sori, ond nid pawb sy'n derbyn ei addysg trwy gyfrwng y Gymraeg... Cywirwch yr iaith os oes angen.

Ers bryd fod "ha ha" wedi bod yn dderbyniol mewn gwyddoniadur. Does dim amser gyda ni am pobl dadleugar fel chi yma- gwyddoniadur yw hwn.....nid heat magazine. Rhys Thomas 19:08, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]
O ie...a rhowch ~~~~ ar ol pob neges i arddangos eich enw. Rhys Thomas 19:09, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi newydd ddileu sawl enghreifftiau o farnau mewn erthyglau ar ol i chi ddweud i mi nad ydy barnau'n dderbyniol mewn erthyglau, ac rydych chi wedi eu hadfer rwan. Gawn ni fynd trwyddyn nhw yn unigol:

Yr Alban - wisgi "ardderchog" - yn ol pwy?
Michelin Guide - prisau "rhesymol" - yn ol awdurau'r llyfr, nid yn ol yr erthygl
Castell Clifford - roedd troi yn erbyn Llywelyn yn "beth gwarthus" - yn ol pwy?
Cyfraith Hywel - "yn anffodus" digwyddodd rhywbeth - yn ol pwy mae'n anffodus?

Dwi'm yn gwybod pwy roddodd y barnau i mewn i'r erthyglau yn wreiddiol, ond gan eich bod chi wedi dadwneud fy ngolygiadau, rydych chi'n derbyn cyfrifoldeb eich hunan am fod y barnau yn yr erthyglau rwan. Y wiwer wen 19:30, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Er mwyn datrys yr anghydfod, dw i wedi dechrau cyfieithu'r polisi en:Wikipedia:Neutral point of view i'r Gymraeg (gweler Wicipedia:Arddull ddiduedd). Mae o waith i'w wneud arni eto ond gobeithio y bydd o ddefnydd! Rhodri77 19:33, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr am eich gwaith Rhodri. Fel gwelwch chi, dwi wedi dechrau tynnu barnau ALLAN o erthyglau ers i mi weld y polisi rydych chi wedi cyfieithu, ond dydy Rhyshuw1 ddim yn cytuno efo fy ngolygiadau diweddaraf serch hyn. Y wiwer wen 19:39, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

Jyst gadewch nhw i fod. Peidiwch a tynnu allan barnau neu ychwangeu barnau. Gadewch y stiwardio i ni. Dyle fi ddal eich flocio am ychwanegu "ha ha" i erthygl. Rhys Thomas 19:44, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]

OK, OK, dwi wedi dadwneud fy ngolygiad i "Cyfraith Hywel". :-( Y wiwer wen 20:02, 30 Tachwedd 2009 (UTC)[ateb]


Helo Mr Thomas.

Wel cytunodd Rhys efo fi am y newidiadau,

ond does dim gen i'r hawl i'w newid ("gadewch y stiwardio i ni")

felly bydd rhaid i mi eu gadw nhw i fod

Y wiwer wen 01:16, 2 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]


hei, rwyt ti'n fwy cool na thybiais. dwi wedi edrych ar rai o dy ffotos / fideos / blogs / etc ar wefannau/sianelau eraill (yn dilyn dy ddolen o yma i youtube, ac o yno i bebo etc), maen nhw'n ffantastig. Ond y ffoto tynnodd Daniel o ti mewn shades ar ddydd olaf blwyddyn 9 (ar ei sianel), mae'n hollol glasur, beth oes i ddweud, lmao Y wiwer wen 11:28, 3 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]


Flipping flip, ffeindias i dy fido you tube lle ro't ti'n seiclo ar y ffordd ddeuol ac yn canu ac roedd y loriau yn mynd heibio yn realy really agos a meddyias i dy fod di'n mynd i farw. dwi'n tybio gan ble rwyt ti'n dweud dy fod di'n byw mai yr a40 ydy. Rhys paid ei wneud, rywt ti'n rhy ifanc i farw, on'd fedret ti ddewis ffordd dawelach? edrycha ar http://www.sustrans.org.uk/map mae gennyn nhw lwybrau yn dy ardal

Flip, man, I found your you tube video where you were seicling on the dual carrigeway and singing and the lorries were going by really reallu close and i thought you were goig to die. supose from where you say you live it was the a40. Rhys don't do it you are too young to die cant you find a quieter road? cehck out http://www.sustrans.org.uk/map they got routes in your area

http://www.youtube.com/watch?v=lisWlSYic8A 2:26 - 2;38

Neges bwysig i bob gweinyddwr[golygu cod]

Yn dilyn trafodaeth yn y Caffi (gweler yma), mae Luke wedi creu tudalen newydd ar gyfer materion gweinyddol, sef Negesfwrdd gweinyddiaeth. Y syniad yw defnyddio'r Caffi ar gyfer negeseuon cyffredinol a defnyddio'r bwrdd newydd fel lle i drafod a datrys - gobeithio - materion fel nodiadau, categorïau, fandaliaeth a phethau eraill sy'n rhan o waith gweinyddwyr. Bydd yn gymorth i gadw trafodaethau gyda'i gilydd ac yn rhyddhau lle yn y Caffi. Hoffwn ofyn i bawb sy'n weinyddwr ei roi ar eu rhestr gwylio a'i ddefnyddio. Gobeithio bydd yr arbrawf yn llwyddiant ac yn gwneud ein gwaith yma yn haws. Anatiomaros 21:57, 3 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]