Sgwrs:Brythoniaid

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dyna fap wedi ei ychwanegu, ac fel y gwelwch fe'i addaswyd o lyfr John Davies Bwlchllan, gyda llawer iawn o enwau trefi ayb wedi eu hepgor. Roedd yntau, yn ei dro, wedi selio'i fap ar waith cynharach - map gan William Rees a gyhoeddwyd yn 1959. Cyn defnyddio'r diagram yma ar dudalennau eraill, mi hoffwn i ei wella ryw ychydig.

Mi garwn fedru defnyddio 'Bold' i gryfhau croesau brwydrau ayb. Unrhyw syniadau? Llywelyn2000 06:46, 14 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Hefyd, mae 'na sgwigl tebyg i 2 wedi ymddangos o dan y map (chwith, gwaelod). Be goblyn ydy o; ac o ble y daeth? Llywelyn2000 08:01, 14 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Ha! Cromfach heb ei gau! Rwan ta, mae'r map yma'n rhy fawr! (Neu fy sgrin 19" yn rhy fach)! Mi wna i ei leihau, ond tydw i ddim eisiau iddo fynd yn rhy fach neu mi fydd y testun yn cywagu fel piltsiards mewn tun. Llywelyn2000 17:21, 27 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]