Yng Ngwanwyn 2009 dewiswyd "Be My Valentine" ar y sioe dewis Wcráinaidd gan Loboda a'i chymar Alexander Shyrkov. Cafodd Loboda y nifer fwyaf o bwyntiau wrth bleidleiswyr a'r rheithgor proffesiynol ar Fawrth 8, 2009. Cyn y gystadleuaeth Eurovision, newidiwyd enw'r gân er mwyn cynnwys y gytgan newydd - Anti-Crisis Girl. Cystadlodd Loboda yn yr ail rownd gynderfynol ac wedyn yn y rownd derfynol. Gorffennodd y gân yn 12fed gyda 76 o bwyntiau.
Mae'r fideo Be My Valentine! (Anti-Crisis Girl) yn gyfuniad o hen fideos Loboda sef "Mishka", "Postoy Muschina" a "Ne Macho" felly dydy Loboda ddim yn canu'r telynegion.