Sgwrs Defnyddiwr:RJ Price Davies

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Helo! a Chroeso i'r Wicipedia Cymraeg. Jason.nlw (sgwrs) 10:56, 10 Mai 2022 (UTC)[ateb]

Diolch! RJ Price Davies (sgwrs) 10:57, 10 Mai 2022 (UTC)[ateb]
Wps - ymddiheuriadau! Newydd weld mae bwlch o ddim ond deg munud oedd rhwng eich golygiad a fy ngolygiad i! Fel rheol, da ni'n aros am 3/4 awr ar cy-WP! Croeso, fodd bynnag! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:36, 16 Mai 2022 (UTC)[ateb]
Dim problem! Dw i'n dal i ddysgu sut i olygu a chreu erthyglau Wicipedia, felly dw i'n hapus iawn i dderbyn unrhyw feedback. RJ Price Davies (sgwrs) 19:18, 16 Mai 2022 (UTC)[ateb]

Diolch a chyngor ar "y"[golygu cod]

Helô. Yn gyntaf, rwy am ddiolch i chi am yr erthyglau ry'ch chi wedi bod yn eu creu am Wrecsam. Mae'n wych gweld mwy o gynnwys sy'n trin pynciau Cymreig yma ac mae'n bwysig o ran gwneud y safle yn adnodd unigryw.

Yn ail, ychydig o gyngor. Rwy wedi golygu ambell erthygl gennych chi ac rwy'n sylwi mod i'n gorfod dileu'r gair y yn aml iawn er mwyn i'r testun wneud synnwyr. Er enghraifft, o'r erthyglau ar Stryt yr Eglwys a Hightown:

cafodd y rhifau 3 a 4 eu hailddatblygu

Giatiau'r mynwent San Silyn

yr ardal tuag at yr Eglwys San Silyn

mae'r hen stryd Wrecsam Fechan yn cael ei hadnabod

yn cynnwys y tafarndai'r Green Dragon a'r Travellers' Rest

Rhywbeth i chi fod yn ymwybodol ohono wrth greu erthyglau newydd, dyna i gyd.

Diolch a phob hwyl gyda'r creu. Llusiduonbach (sgwrs) 15:27, 19 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]

Helô, diolch am eich neges a diolch yn fawr am gymryd yr amser i olygu'r erthyglau. Dim ond dysgwr ydw i, ac dw i'n ddiolchgar iawn am unrhyw help i wella answadd yr ethyglau. Yn arferol dw i'n defnyddio Cysill arlein i chwilio am gamgymeriadau cyn cyhoeddi ond yr wythnos diwethaf doedd gen i ddim lawer o amser a wnes i anghofio gwneud hyn. Diolch i chi unwaith eto. Cofion, Richard RJ Price Davies (sgwrs) 20:30, 19 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]
Dim problem. Rwy'n mwynhau darllen trwy'r erthyglau gwahanol. Mae llawer o waith da yma! Llusiduonbach (sgwrs) 20:43, 22 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]
Wel, dw i'n mwynhau'r gwaith. Mae gen i ddiddordeb mewn hanes lleol a dw i'n hoff o Wrecsam. Ond rhaid i mi gyfaddef ei bod hi'n anodd weithiau. RJ Price Davies (sgwrs) 09:54, 23 Tachwedd 2022 (UTC)[ateb]

Os oes gennych ddiddordeb, ymunwch gyda WiciBrosiect Cymru os gwelwch yn dda! Diolch yn fawr Titus Gold (sgwrs) 15:12, 29 Ebrill 2023 (UTC)[ateb]