Sgwrs Defnyddiwr:Afallen
Shwmae, Afallen! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. | Message in English | Message en français | ||
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma. | |||
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,376 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg. | |||
Y Caffi Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia. |
Cymorth Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia. | ||
Porth y Gymuned Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth sydd angen gwneud yma. |
Golygu ac Arddull Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau. | ||
Hawlfraint Y rheolau hawlfraint yma. |
Cymorth iaith Cymorth gyda'r iaith Gymraeg. | ||
Polisïau a Chanllawiau Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned. |
Cwestiynau Cyffredin Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr. | ||
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial, a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio. |
Y Pum Colofn Egwyddorion sylfaenol y prosiect. | ||
Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".
|
Cofion cynnes,
Anatiomaros 15:27, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)
Llwyn Onn
[golygu cod]Diolch am eich cyfraniad ond nid dyma'r lle i destunau. Lle i erthyglau gwyddoniadurol yn unig yw Wicipedia, nid testunau cerddi a chaneuon ayyb. Efallai yr hoffech chi gopïo'r testun a'i roi ar dudalen newydd ar wefan Wicitestun? Bydd rhaid ei ddileu yma ond rhoddaf amser i chi wneud hynny yn gyntaf. Diolch, Anatiomaros 15:27, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)
Sut mae cael gwared ar erthygl. Roeddwn ar fin ychwanegu mwy o wybodaeth am y gan, y geiriau ayyb. Mae llawer o ganeuon Saesneg ar Wicipedia.
- Helo Afallen! Dw i wedi copïo a pastio'r gân i Wicitestun fel yr awgrymodd Anatiomaros. Dyma'r linc fan hyn. [1] Dw i wedi ei rhannu'n linellau trwy osod <br> lle ro'n i meddwl y dylai'r llinellau orffen. Ond os ydw i wedi eu rhoi yn y lle anghywir, mae croeso cynnes i ti eu newid nhw! Diolch. Pwyll 17:02, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)
- O.N. Paid anghofio lofnodi dy negeseuon drwy roi ~~~~ ar ddiwedd y neges (sef y botwm shift a # gyda'i gilydd! Pwyll 17:02, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Afallen, doedd gen i ddim amser i esbonio'n llawn y tro cyntaf,ond fel hyn mae hi: mae lle ar y Wicipedia i erthyglau am ganeuon ayyb ond nid i dudalennau sy'n cynnwys dim ond geiriau'r gân neu gerdd. Mae ein chwaer-brosiect Wicitestun yno ar gyfer testunau. Ond wrth gwrs, os oeddet ti'n bwriadu sgwennu rhywbeth pur sylweddol am gefndir a hanes y gân mae'n fater gwahanol. Y cwbl welais i oedd y testun a dyna pam wnes i adael y neges i ti. Mae'r testun ar Wicitestun rwan, diolch i Pwyll, felly os wyt ti eisiau sgwennu amdano yma mae croeso i ti wneud a gelli ddyfynnu o'r testun ar Wicitestun a rhoi dolen iddo yn lle rhoi'r testun llawn yma. Gobeithio fod hynny'n egluro pethau'n well na'r tro cyntaf! Yn y cyfamser dwi am ddileu'r dudalen wag (yn ateb i dy gwestiwn, dim ond gweinyddwyr sy'n medru gwneud hynny). Anatiomaros 23:03, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)