Sgwrs:Siôr (sant)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Symud?[golygu cod]

Ceir sawl Siôr a dwi ddim yn gweld bod 'Siôr' heb y gair 'San(t)' o'i flaen yn amlycach nag unrhyw Siôr arall. Hyd yn oed os cedwir enw'r dudalen mae angen tudalen wahaniaethu. Dwi'n cynnig symud hyn i 'Siôr (sant)' a chael 'Siôr' fel tudalen wahaniaethu; trefn a geir ar bob un o'r wicis eraill hyd y gwelaf i. Mae'n wir bod gennym ni sawl sant gyda'r enw personol yn unig fel enw'r dudalen ond wedyn doedd dim angen gwahaniaethu yn achos y seintiau hynny, hyd yn hyn o leiaf. Yn y bôn y ddadl yw hyn: Beth ydy ystyr amlwg yr enw, y sant neu enw personol sy'n gyffredin iawn? Does 'mond un San Siôr ond mae nifer o Sioriaid felly rhaid gwahaniaethu. Anatiomaros (sgwrs) 00:49, 22 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Cytuno, er bod yn well gen i tudalen o'r enw 'Sant Siôr' yn hytrach na Siôr (Sant), gan mai dyna fyddai'r darllenydd yn disgwyl ei weld. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:46, 22 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Cytuno bod gwerth cael tudalen wahaniaethu ar gyfer y Sioriaid eraill. Rwy wedi osgoi defnyddio'r teitl "San Siôr"/"Sant Siôr" oherwydd yr amrywiaeth sydd yn nefnydd y Gymraeg. Yn achos seintiau Celtaidd mae math arall o amrywiaeth: "Sant Teilo" neu "Teilo Sant"? (Osgoir y broblem hon yn nheitl yr erthygl, sef "Teilo" yn unig.) "Sant Padrig" neu "Padrig Sant"? (Sant Padrig yn ôl teitl yr erthygl, ond wedyn mae Eglwys Padrig Sant, Caerdydd. Byddai Padrig fel teitl yr erthygl gyntaf yn well gen i.) A pham San Ffolant ond Sant Nicolas? I fi mae defnyddio'r enw personol yn unig yn ffordd o sicrhau mwy o gysondeb. Lle bo angen gwahaniaethu, Siôr (sant) amdani. Ham II (sgwrs) 08:51, 22 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]