San Ffolant
Gwedd
- Gweler hefyd: Dydd San Ffolant.
| San Ffolant | |
|---|---|
| Ganwyd | 175 Terni |
| Bu farw | 14 Chwefror 273 o pendoriad Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | meddyg |
| Swydd | esgob |
| Dydd gŵyl | 14 Chwefror |
Enw ar sawl sant a ferthyrwyd yn Rhufain hynafol yw San Ffolant (Lladin: Valentinus; Saesneg a rhai ieithoedd eraill: Valentine). Daw'r enw o valens ("teilwng"), a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod yr Henfyd Diweddar.[1] Ni wyddwn ddim am y San Ffolant sy'n cael ei ddathlu ar 14 Chwefror heblaw ei enw a'r ffaith y claddywd yn y Via Flaminia i'r gogledd o Rufain ar 14 Chwefror. Mae'n ansicr hyd yn oed os mai dathlu'r sant hwn neu holl seintiau Ffolant mae'r ŵyl. Oherwydd hyn ni gadwyd y dathliad litwrgaidd yn y calendr seintiau Catholig a adolygwyd ym 1969.[2]