Sgwrs:Pasgen ap Cyngen
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Pwy oedd ei dad?[golygu cod]
Mae rhywbeth od iawn am hyn. Yn ôl y ddwy achrestr sy'n cael eu dyfynnu gan Ifor Williams yn ei nodyn ar Cynan Garwyn yn Canu Taliesin, roedd Pasgen yn fab i Cadeyrn (Cadeyrn Fendigaid) fab Cadell Ddyrnllwg. O ble daw 'Pasgen ap Cyngen' felly? Un llinell foel sydd yn yr erthygl ar en:, heb ffynhonnell o gwbl. Mae rhai o'r pethau sydd ganddyn nhw ar frenhinoedd cynnar y Cymry a'r Brythoniaid yn amheus iawn yn gyffredinol hefyd. Meddwl ei fod yn werth nodi hyn yma am rwan: heb dreulio amser yn chwilio am y wybodaeth does gen i ddim modd i brofi neu wrthbrofi dilysrwydd hyn i gyd. Ar y lleia mae'n dangos fod rhaid i ni gymryd gofal wrth addasu deunydd am hanes cynnar Cymru o'r Anglopedia... Anatiomaros 15:42, 25 Medi 2009 (UTC)