Pasgen ap Cyngen

Oddi ar Wicipedia
Pasgen ap Cyngen
Ganwyd500 Edit this on Wikidata
Bu farw540 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadCyngen Glodrydd Edit this on Wikidata
PlantMorgan ap Pasgen Edit this on Wikidata

Brenin Powys yn rhan gyntaf y 6g oedd Pasgen ap Cyngen (bl. tua 530, efallai). Daeth i'r orsedd ar farwolaeth ei dad, Cyngen Glodrydd, ac olynwyd ef gan ei fab, Morgan ap Pasgen. Ychydig iawn a wyddys amdano heblaw'r achau traddodiadol.

Os ydy'r dystiolaeth amdano yn ddilys, teyrnasodd mewn cyfnod pan oedd teyrnas Powys yn ymestyn dros y ffin bresennol i orllewin canolbarth Lloegr ac yn rhan o diriogaeth Frythonig a ymestynnai o'r Hen Ogledd hyd Dyfnaint a Chernyw. Roedd Pasgen ei hun yn un o'r Cadelling, disgynyddion Cadell Ddyrnllwg o'r Hen Ogledd, sefydlydd traddodiadol llinach frenhinol Powys yn ôl Nennius.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ifor Williams, Canu Taliesin (Caerdydd, 1960), tud. 19.