Sgwrs:Jim Parc Nest

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gormod o fanylion personol[golygu cod]

Ai dyma'r lle i roi gwybodaeth fel hyn - "yn dad i Tegid a Bedwyr, ac yn llystad i Owain a Llio ac yn dad-cu i Daniel, Mathew a Gruffudd"? Gellir dweud fod ganddo ddau blentyn ayyb ond does dim angen eu henwau o gwbl, a hynny am sawl rheswm (1. gwyddoniadurol 2. preifatrwydd....). Anatiomaros 18:09, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Ailgyferiio enw (pa ffordd?)[golygu cod]

Ar hyn o bryd mae T. James Jones yn ailgyfeirio at Jim Parc Nest. Ddylai o ddim bod y ffordd arall rownd? Hefyd, am beth mae'r 'T' yn ei enw yn sefyll?--Ben Bore 09:30, 12 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Cytuno gyda'r ddau bwynt uchod. Mi wnai gael gwared ar yr enwau personol, dim ond angen enwau os yw'r plant/wyrion yn adnabyddus eu hunain. Digon teg defnyddio llysenw os mai dyna'r unig enw y defnyddir i gyfeirio at y person fel rheol, ond os nad odan yr enw hwnnw mae'n cyhoeddi ei waith, nid dyna ddylid fod enw'r ethygl. Thaf 10:53, 12 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Cytuno â phopeth. Troi Jim Parc Nest yn dudalen ailgyfeiriad, a rhoi T. James Jones fel y dudalen ddiofyn. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:13, 13 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Yn hollol. Awê! Llywelyn2000 03:08, 14 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn mynd i'w wneud, oherwydd y tro diwethaf imi wneud rhywbeth tebyg, aeth popeth yn ffradach! Ha. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 14:19, 14 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Os newid hwn yn ôl fel mai T James Jones yw'r brif erthygl bydd angen gwneud yr un fath gyda rhai fel Selwyn Iolen (heddwch i'w lwch) mae'n debyg. Fy hunan dw i ddim yn cytuno gyda gwneud hynny (yn amlwg gan mai fi symudodd yr erthygl i fod o dan Jim Parc Nest i gychwyn!). Byddwn i'n dadlau dros ddefnyddio enwau barddol pobl sy'n nodedig yn bennaf oherwydd eu bod yn feirdd, yn enwedig os ydyn nhw'n cael eu nabod yn gyffredin dan yr enw hwnnw, ac yn enwedig (byddwn i'n dadlau) pobl sy'n amlwg iawn yn yr Orsedd ac yn cael eu nabod o'r herwydd, fel Archdderwyddon. Mae Jim Parc Nest yn cael ei alw wrth yr enw T. James Jones hefyd, dw i'n gwybod, felly galla i weld y ddwy ochr, ond byddwn i'n dadlau dros barchu confensiynau'r Orsedd ar y Wicipedia Cymraeg wrth drafod aelodau amlwg o'r Orsedd. Maen nhw'n enwau Cymraeg eu naws yn aml, a'r unigolyn ei hunan sydd wedi dewis yr enw barddol. Jac y jwc 23:22, 14 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Ar ôl dweud y byddai angen newid Selwyn Iolen os newid Jim Parc Nest, dw i'n dechrau meddwl a oes rhaid wrth gysondeb wedi'r cwbl? Mae'n bosib bod angen edrych ar bob achos yn unigol, achos gallen i ddeall rhoi Dic Jones o dan yr enw hwnnw yn hytrach nag o dan Dic yr Hendre, er enghraifft, gan ei fod yn adnabyddus iawn fel Dic Jones. Mae rhai fel Robin Llŷn yn anoddach, achos mae'n adnabyddus dan ei ddau enw, fel yr erthygl hon o bosib (er y byddwn i'n dadlau dros Jim Parc Nest). Falle bod hyn yn rhywbeth na ddylem dreulio gormod o amser yn poeni amdano a'i drafod tan Sul y pys, felly ymddiheuriadau am ysgrifennu cymaint ar y pwnc. Ar y llaw arall, dw i'n teimlo ein bod yn glynu braidd yn llym at feddwl yn gonfensiynol Seisnig mai enw rhywun yw'r enw sydd ar ei dystysgrif geni, beth bynnag maen nhw'n cael eu galw go iawn. Dw i'n teimlo yn enwedig (o edrych yn ôl ar yr Archdderwyddon er enghraifft) bod erthyglau dan yr enwau Williams Crwys Williams, Albert Evans-Jones a James Nicholas sy'n enwau dieithr i ni, yn rhyfedd braidd tra bod eu henwau barddol Crwys, Cynan a Jâms Nicolas yn llawer mwy cyfarwydd, ac mae hynny'n wir am dalp sylweddol ohonyn nhw byddwn i'n dweud.
Beth yw'r arfer ar (ar y Wikipedia Saesneg os nad yma) gydag actorion ac ati, sydd ag enw llwyfan gwahanol i'w henw 'go iawn'? Jac y jwc 23:29, 14 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Yn ôl en, mae angen yr hyn ar enw erthygl:
  • Recognizability – Is the candidate title a recognizable name or description of the topic?
  • Naturalness – What title(s) are readers most likely to look for in order to find the article?
  • Precision — How precise is the title under discussion?
  • Conciseness — Is the title concise or is it overly long?
  • Consistency — Does the proposed title follow the same pattern as those of similar articles?
Nawr te, gyda'r erthygl fel y mae hi ar hyn o bryd: tic i Recognizability, oherwydd ei fod yn disgrifio'r erthygl drwy enwi'r person; tic i Naturalness, oherwydd credaf os yw rhywun yn chwilio amdano, wedyn siŵr o fod bydd y person yn hyddysg yn yr Orsedd; hanner tic i Precision, oherwydd bod wir enw arno; tic i Conciseness; a thic i Consistency, gan ei fod yn dilyn erthyglau eraill.
Yn ôl yr adran 'common names,' enwir erthyglau pobl yn ôl eu henwau cyffredin (megis Bill Clinton yn hytrach na William Jefferson Clinton, a chaffein yn hytrach na 1,3,7-trimethyl-1H-purine-2,6(3H,7H)-dione). Felly mae'n rhaid inni ofyn os mai dyma'r enw mwyaf cyffredin arno. Mae 127,000,000 o ganlyniadau gyda T. James Jones a 1,270,000 o ganlyniadau gyda Jim Parc Nest. Felly, yn ôl chwiliadau Cymraeg Google, TJJ yw'r enw mwyaf cyffredin arno. Felly, dwi eto yn pleidleisio dros newid yr erthygl yn ôl i T. James Jones. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:22, 15 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Dw i'n cytuno. TJJ yw'r emw mwyaf adnabyddus. Yr oedd yn enwog fel cyfieithydd Dan y Wenallt ac fel scriptiwr Pobl y Cwm cyn iddo fabwysiadu ei enw barddol. Dyfrig 03:14, 15 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Os ydy'r system ailgyfeirio yn ei le, yna does dim gwahaniaeth, mewn gwirionedd, pa enw sydd ar ben yr erthygl, cyn belled (fel mae Glenn yn ei ddweud), ein bod yn gyson. A rose by any other name would smell as sweet... Llywelyn2000 05:01, 15 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Dw i'n cytuno nad yw hyn o dragwyddol bwys o ran ffeindio'r erthygl gan y bydd un yn ailgyfeirio i'r llall beth bynnag, a wna i ddim pwdu am byth os mai newid yn ôl fydd y cytundeb :) Mae'r ddau enw yn gwneud yn eitha da o dan feini prawf Glenn uchod, ond dw i'n meddwl y byddai'n brafiach defnyddio ei enw barddol. A dyw gwneud chwiliad gwgl syml ddim yn ateb - wyt ti'n credu o ddifri bod 127 miliwn o erthyglau yn sôn am T James Jones?! Mae'r chwiliad yn cynnwys pob James a Jones ymhob iaith mae'n siŵr, sy'n bownd o fod yn fwy... Gwell fyddai edrych ar sylwadau go iawn siaradwyr Cymraeg ar flogiau, twitter ac ati, petai'n werth ein hamser i gasglu tystiolaeth o'r fath. Mae'n bosib y byddai mwy o T James Jones, wn i ddim. Ond mae ail gwestiwn Ben Bore ar ddechrau'r drafodaeth yn berthnasol byddwn i'n dweud - am beth mae'r T yn sefyll? Wn i ddim. Tybed beth mae ei ffrindiau a'i gydnabod yn ei alw? Beth mae pobl yn ei alw wrth ei gyfweld? Fetia i swllt mai Jim yw e... Jac y jwc 12:31, 15 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Y peth yw, mae gan Wicipedia reolau pendant. Dwi'n cytuno; mi fyddai'n braf inni ddefnyddio'i enw barddol, ond yn ôl y canllawiau, dylwn ni newid enw'r erthygl heb os nac oni bai. Dwi'n credu bod sôn mewn celc Google am TJJ yn 127 miliwn tro, oherwydd dyma'r hyn sydd gan Google. Efallai bod rhai yn gopïau dwbl, ond defnyddiais baramedrau sy'n cynnwys y Gymraeg a'r Saesneg yn unig, felly nad yw'r chwiliadau yn cynnwys tudalennau mewn ieithoedd tramor eraill. Hefyd, mae'n rhaid cynnwys yr holl enw os mai dyma ei enw mwyaf adnabyddus. Eto, rheol Wici ydyw. Felly, os oes cytundeb, dylwn ni newid enw'r erthygl cyn gynted ag y bo modd. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:09, 17 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Yn ogystal â'r erthygl yma, mi fydd yn rhaid inni safoni'r categori hwn hefyd. Felly, cyn gynted ag inni bleidleisio dros hyn, rydym yn gallu bwrw ati! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:31, 17 Awst 2011 (UTC)[ateb]

Safoni, wyt ti o ddifri? Fel gwnes i sôn uchod, falle bod Jim Parc Nest yn un allai fynd ddwy ffordd, ond mae rhai o'r hen archdderwyddon eraill yn galw allan am gael eu symud i fod o dan eu henwau barddol. Pwy roi Hwfa Môn a Wil Ifan (heb sôn am Crwys, Cynan ac ati fel nes i sôn uchod) i lawr o dan Rowland Williams a William Evans pan nad y'n nhw ond yn adnabyddus o dan eu henwau barddol? Os oes rhaid eu cysoni nhw, mae dadl gryfach dros ddefnyddio'r enwau barddol.
Dw i'n deall bod gan Wicipedia reolau fel rwyt ti'n dweud, ond dw i ddim yn gweld o'r drafodaeth uchod bod y rheolau yn mynnu mai T James Jones nid Jim Parc Nest y dylid ei ddefnyddio? O'r hyn wela i (?), byddai'r naill neu'r llall yn iawn, a dw i'n meddwl mai Jim Parc Nest y dylid ei ddefnyddio achos mai felly (yn gynyddol, yn rhinwedd ei waith fel archdderwydd) mae e'n cael ei alw.
O ran y 127miliwn o erthyglau, fel dwedes i mae chwiliad google cyffredin yn mynd i daflu pob math o lanast i fyny. Gwell fyddai chwilio beth mae siaradwyr Cymraeg yn ei ddweud. Mae Umap, er enghraifft, yn cadw cofnod o drydariadau yn Gymraeg. Dyma chwiliad yno felly:
gwglo T James Jones ar cy.umap.eu
gwglo Jim Parc Nest ar cy.umap.eu
Eto mae tipyn o ddyblygu, ond o'r hyn wela i mae na 2 drydariad unigryw yn cyfeirio at T James Jones, ac 8 trydariad unigryw yn cyfeirio at Jim Parc Nest.
Wrth gwrs, fe allen ni ddadlau am hyn am byth, a falle y dylwn i adael i chi sydd yma'n gweithio'n barhaus wneud fel sydd orau yn eich barn chi. Anaml iawn dw i'n cael cyfle i ddod yma (er mai'r gobaith yw dod mwy o hyn ymlaen), felly falle fy mod i'n rhy uchel fy nghloch. Ond eisiau Wicipedia Cymraeg o werth ydw innau hefyd, fel chithau. Dyna pam dw i'n ymdrechu i'ch darbwyllo :)
Iawn, ar gyfer pobl sy'n llai cyfarwydd o dan eu henwau barddol, dw i'n cytuno na fyddai'n ddoeth (nac yn ddymunol) eu rhoi o dan yr enwau hynny. Ond ar gyfer rhai sy'n fwyaf adnabyddus o dan yr enwau hynny ac am eu swyddogaeth yn yr Orsedd, dw i'n meddwl ei fod yn fater gwahanol. Beth am ddefnyddio enwau barddol dim ond ar gyfer yr Archdderwyddon fel categori felly? A chytuno mai eithriad fyddan nhw i'r beirdd yn gyffredinol, fydd i lawr o dan eu henwau 'go iawn' oni bai bod rheswm da (e.e. enw barddol yn fwy cyfarwydd) i wneud fel arall? Oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r Archdderwyddon yn adnabyddus dan eu henwau barddol, byddwn i'n dweud. Jac y jwc 20:54, 17 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Ydw, dwi o ddifri. Wel, mae en yn galw Hwfa Môn yn ôl ei enw, gwir: en:Rowland Williams (Hwfa Môn), yn ogystal â "Wil Ifan" yn ôl ei enw wir e: en:William Evans (Wil Ifan). Gyda llaw, mae "Wil Ifan" yn dudalen gyfeirio i William Evans ar en.
Eto, nid allem wneud beth bynnag rydym moyn - mae rheolau a pholisïau i'w dilyn nhw. Ac roeddwn i'n meddwl fy mod wedi dangos, yn glir iawn, bod mwy o ganlyniadau ar gyfer TJJ nac ar gyfer JP; 'sdim ots os mai tudalennau dwbl ydynt - mae mwy o sôn am y blaenorol na'r diwethaf.
Yn y diwedd, ffugenwau ydy enwau barddol, nid enwau go iawn. Rydym yn gallu galw Michael Jackon y "brenin pop," ond nid yw'n newid ei enw go iawn, a dyma'r hyn y dylid ei ddefnyddio fel teitl erthygl. Does dim dwy ffordd amdani.
Dwi, yn bersonol, yn dilyn polisïau Wicipedia. Mi hoffwn ddefnyddio'r enwau barddol, oherwydd eu bod yn ychwanegu at ddyfnder ieithyddol Wicipedia, ond fel dwi wedi dweud, mae'r polisi yno...
Dydy rhywbeth fel hyn ddim yn fy mhrif ddiddordeb, felly a dweud y gwir, sdim ots gen i'r naill ai ffordd o'r ddwy. Ond, fel y byddai cyfranwyr eraill yn ei ddweud, dwi yn un i gadw at y rheolau a pholisïau.
Beth bynnag yw'r canlyniad, mae'n rhaid inni safoni ta beth. Ond wrth edrych ar en, does dim safoni yno! Dwi wedi gweld archdderwyddon gyda'i henwau gwir, ac enwau barddol! Fel fi'n dweud, 'sdim ots gen i a dweud y gwir. Cytunaf â'r hyn a ddilyn :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:52, 17 Awst 2011 (UTC)[ateb]
Hen drafodaeth ond rwy'n credu mai T. James Jones ddylai'r prif deitl fod, am sawl rheswm:
  • Mae'r enw barddol yn fwy cyfarwydd i Eisteddfodwyr ond llysenw yw e a mi fydd rhai pobol yn ei nabod fel T. James Jones heb unrhyw syniad mai'r un person yw a Jim Parc Nest (nes darllen y Wici!). Mae bron pob erthygl newyddion Cymraeg amdano yn dueddol o ddefnyddio'r ddau enw (sy'n dangos fod angen esbonio?) a'r erthyglau Saesneg yn dueddol o ddefnyddio T. James Jones gynta, ac efallai mynd ymlaen i esbonio'r enw barddol.
  • T. James Jones yw ei enw fel awdur a felly mae hynny yn ymddangos mewn cyfeiriaduron llyfrau a chronfeydd data arall (Gwales, Amazon, llyfrgelloedd).
  • Mae ei waith yn cwmpasu mwy na barddoniaeth felly mae'r enw .. Jones yn fwy eang.
  • Does dim gwahaniaeth o ran chwilio na peiriannau chwilio beth yw'r enw. Mi fydd chwiliad mewnol a chwiliad Google/Bing am Jim Parc Nest neu T. James Jones yn dod o hyd i'r un erthygl.
  • Fel enghraifft arall, mae ei gyfrif Twitter yn defnyddio 'jimparcnest' fel enw cyfrif ond 'T James Jones' fel enw.
--Dafyddt (sgwrs) 18:19, 26 Gorffennaf 2017 (UTC)[ateb]