Seiclo yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Geraint Thomas, y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France (llun: 2017)

Gellir olrhain hanes seiclo yng Nghymru yn ôl i ail hanner y 19eg ganrif. Wrth i feiciau ddod yn fwy cyffredin fel ffurf o drafnidiaeth o'r 1870au ymlaen, dechreuodd seiclo hefyd ddatblygu fel chwaraeon.

Bu cyflwyno’r ‘Beic Diogelwch’ (Saesneg: Safety Bicycle) yn y 1880au yn gam mawr tuag at boblogeiddio seiclo, a gwelwyd cynnydd enfawr yn y defnydd o feiciau yng Nghymru y 1890au a’r 1900au, fel yng ngweddill gwledydd Ewrop. Gwelwyd traciau rasio cynnar mewn parciau ac ystadau fel Gerddi Sophia yng Nghaerdydd, Parc Penydarren ym Merthyr Tudful, Sain Helen yn Abertawe a Pharc Wynnstay yn Wrecsam.[1]

Sefydlwyd clybiau seiclo ledled Cymru hefyd, fel yng ngwledydd eraill Ynysoedd Prydain, a byddai rheini yn cynnal cystadlaethau ar gyfer eu haelodau. Roedd un clwb yng Nghaerdydd, er enghraifft, yn herio beicwyr i seiclo o Gaerdydd i Lanfair-ym-Muallt ac yn ôl.[1] Byddai gan glybiau eu pencadlys ac yn aml fathodyn penodol. Roedd gogledd Cymru hefyd yn prysur ddatblygu yn lleoliad poblogaidd ar gyfer seiclwyr, gyda rhai yn dod o bell ac agos i fwynhau’r golygfeydd yn ogystal â phrofi eu ffitrwydd. Hybwyd seiclo o’r math hwn gan y Cyclists’ Touring Club (CTC) a sefydlwyd yn wreiddiol fel y Bicycle Touring Club yn Lloegr yn 1878. Sefydlwyd cangen ym Morgannwg yn 1900, ac estynnwyd honno i dde Cymru yn 1920, ac yng ngogledd Cymru yn 1929. Byddai aelodau yn cael prydau am brisiau gostyngiedig, llety a gofal o’u beiciau mewn mannau penodol trwy’r wlad. Defnyddiwyd arwyddlun y Clwb, sef olwyn ag adennydd, i ddangos pa leoliadau oedd yn cynnig y gwasanaethau hynny.

Vélodrome Caerfyrddin. 1908

Agorwyd trac seiclo concrid yng Nghaerfyrddin - y vélodrome cyntaf o’i fath yng Nghymru - ar ddydd Llun y Pasg 1900. Ystyriwyd Parc Caerfyrddin yn drac safonol, ac er i draciau seiclo eraill ymddangos mewn sawl rhan arall o Gymru yn ystod y blynyddoedd hynny, ni chafwyd yr un a allai gymharu â hwnnw agorwyd Canolfan Maendy, Caerdydd, ym Mai 1951. Datblygodd seiclo yn faes hynod gystadleuol, gyda rasys yn cael eu cynnal mewn trefi a phentrefi, a phobl yn ymgynnull i wylio’r cyffro. Rhoddid gwobrau hael i enillwyr y rasys, i’r fath raddau â bod yr Undeb Seiclo Cenedlaethol wedi dod i’w hystyried yn broblem gan ei bod yn groes i’r ysbryd amatur yr oedd yn ceisio ei hyrwyddo.

Gyda chynnydd mawr yn y nifer a oedd yn seiclo ar ddiwedd y 19eg ganrif, daeth rhai unigolion yn dra adnabyddus fel pencampwyr yn y maes. Yr enwocaf oedd Jimmy Michael a’r brodyr Linton - Arthur, Samuel a Thomas. Daeth Arthur Linton o Aberaman, ger Aberdar, a Jimmy Michael yn bencampwyr byd - y naill yn 1894 a’r llall yn 1895. Buont yn rasio ar draciau yn Ffrainc, crud seiclo fel chwaraeon, ynghyd â gwledydd eraill ar draws y byd, a byddai’r hanes am eu llwyddiannau yn cael ei rannu â’u cefnogwyr adref ar dudalennau’r papurau newydd.[2]

Y seiclwr Arthur Linton o Aberaman, Pencampwr y Byd 1894

Ganrif yn ddiweddarach roedd cyfnod euraidd arall ar wawrio i seiclo yng Nghymru. Un garreg filltir i’r chwaraeon, a chanlyniad buddsoddiad ariannol yn ei ddatblygiad, oedd agor y vélodrome yng Nghasnewydd yn 2003. Fe’i defnyddiwyd gan seiclwyr i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd 2008, a Gemau Olympaidd yr Haf yn 2012 a 2016.

Cafwyd llwyddiant mawr i Gymry ar y trac seiclo yn y blynyddoedd ers hynny. Yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008, enillodd Nicole Cooke fedal aur yn y Ras Ffordd i Ferched a rhoi i Gymru ei medal aur gyntaf yn y gemau ers 36 mlynedd. Cafodd Geraint Thomas hefyd lwyddiant yn yr un flwyddyn, yn ennill y fedal aur yn y Ras Ymlid i dimau - camp a lwyddodd i’w chyflawni eto yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012. Aeth ymlaen wedi hynny i ennill y fedal aur yn Ras Lôn Gemau'r Gymanwlad 2014. Mae Elinor Barker hefyd wedi cael llwyddiant ar y trac seiclo gan ennill Pencampwriaeth Ras Ymlid y Byd ddwywaith yn ogystal â medal aur yn yr un gamp yng Ngemau Olympaidd yr Haf yn Rio de Janeiro yn 2016. Roedd Owain Doull hefyd yn y Gemau hynny a llwyddodd yntau i ennill y fedal aur a thorri record y byd yn y rownd derfynol.

Yn Tour de France 2017, daeth Geraint Thomas yn y Cymro cyntaf erioed i wisgo'r siwmper felen wedi iddo ennill y cymal cyntaf. Llwyddodd i’w chadw tan y pumed cymal, a daeth ei gyfraniad i'r ras i ben pan gafodd ddamwain ar Gymal 9 gan dorri pont ei ysgwydd.

Ar 29 Gorffennaf 2018, daeth Geraint Thomas yn y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France, gorchest sy’n cael ei hystyried yn un o uchafbwyntiau hanes chwaraeon yng Nghymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Cycling - A National Obsession". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 2018-07-30.
  2. WalesOnline (2011-04-07). "Welsh History Month: Welsh Cyclists". walesonline. Cyrchwyd 2018-07-30.