Sebastiano Caboto

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sebastian Cabot)
Sebastiano Caboto
Engrafiad o Sebastiano Caboto gan Samuel Rawle (1824), yn seiliedig ar bortread gan Hans Holbein yr Ieuaf a ddinistriwyd mewn tân.
Ganwyd1476 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
Bu farw1557 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, mapiwr Edit this on Wikidata
TadGiovanni Caboto Edit this on Wikidata

Morlywiwr, fforiwr, a chartograffwr Eidalaidd oedd Sebastiano Caboto (Saesneg: Sebastian Cabot, Sbaeneg: Sebastián Caboto neu Gaboto; tua 14761557) a oedd yn gwasanaethu teyrnoedd Lloegr a Sbaen yn ystod Oes y Darganfod.

Mab y fforiwr Giovanni Caboto (John Cabot) oedd Sebastiano, ond mae union fanylion ei fywyd cynnar yn anhysbys. Credir iddo gael ei eni naill ai ym Mryste neu yn Fenis. Mae'n bosib iddo gyd-fynd â'i dad ar y fordaith gyntaf o Loegr i Ogledd America ym 1497.[1]

Ym 1512, yn swydd cartograffwr i'r Brenin Harri VIII, aeth Caboto gyda'r fyddin Seisnig i frwydro ar ochr Ferdinand II, brenin Aragon, yn erbyn y Ffrancod. Fe'i comisiynwyd yn gapten gan lynges Sbaen am iddo wybod am arfordir gogledd-ddwyrain Gogledd America. Cafodd mordaith dan ei awdurdod ym 1516 ei diddymu yn sgil marwolaeth y Brenin Ferdinand. Gwasanaethodd hefyd i Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ac ym 1518 fe'i penodwyd yn aelod o Gyngor yr India Newydd ac yn brif beilot a goruchwyliwr swyddogol peilotiaid yn llynges Sbaen.[1]

Ym 1525 arweiniodd Caboto fordaith o dair llong Sbaenaidd i hybu masnach â'r Dwyrain Pell. Penderfynodd droi cyfeiriad ei longau i Dde America wedi iddo glywed am gyfoeth oedd i'w gael yn ardal Río de la Plata. Wedi iddo ddychwelyd i Sbaen ar ôl tair blynedd o fforio, cafodd Caboto ei feio am fethiant yr ymdrech a'i alltudio i Affrica. Derbyniodd bardwn dwy flynedd yn hwyrach, a'i adfer i swydd y prif beilot.[1]

Ym 1544 lluniodd Caboto fap o'r byd. Derbyniodd safle yn y llynges Seisnig ym 1548 a hefyd pensiwn oddi ar y Brenin Edward VI. Gwasanaethodd yn llywodraethwr Cwmni'r Anturiaethwyr Masnachol ers ei sefydlu ym 1551, a threfnodd fordaith i chwilio am Dramwyfa'r Gogledd Ddwyrain. Bu farw yn Llundain, o bosib wedi cyrraedd pedwar ugain oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Sebastian Cabot. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Rhagfyr 2020.