Scriblerus Club

Oddi ar Wicipedia
Scriblerus Club
"Fronti Fides": cartŵn o 1728 sydd yn dychanu Pope a'i aelodaeth o'r Scriblerus Club.
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwirfoddol Edit this on Wikidata

Cymdeithas anffurfiol o lenorion ffraeth Llundeinig oedd y Scriblerus Club a gysylltir ag oes Awgwstaidd llenyddiaeth Lloegr. Gelwir aelodau'r clwb yn Scriblerians. Fe'i sefydlwyd ym 1714 gan Alexander Pope, Jonathan Swift, Henry St John, Arglwydd Bolingbroke, Robert Harley, Iarll Rhydychen, John Gay, Thomas Parnell, Matthew Prior, a John Arbuthnot. Cyfarfu'r aelodau ym Mhalas Sant Iago, ac ysgrifenasant weithiau dychanol dan y ffugenw Martinus Scriblerus i ddilorni llenorion eraill y cyfnod. O ran gwleidyddiaeth, Torïaid oeddynt, a chyfranasent yn fynych at ryfel y pamffledi yn erbyn y Chwigiaid yn yr oes gynhyrfus hon.

Dechreuodd Pope, Swift, Gay, Parnell, ac Arbuthnot gydweithio ar y Memoirs of Martinus Scriblerus ym 1713, ac o'r cyfarfodydd bywiog hynny datblygodd y gymdeithas anffurfiol. Crachlenor gwneud oedd Martinus Scriblerus, a grewyd i watwar yr ysgrifennwr am dâl a fu mor gyffredin yn Grub Street a rhannau eraill o'r brifddinas. Deilliodd ei enw o Syr Martin Mar-all, cymeriad o un o gomedïau John Dryden, a'r term cyfoes "sgriblwr" a ddefnyddid i ddirmygu llenorion di-ddawn. Priodolir i Pope ddyfeisio'r cymeriad, ac Arbuthnot oedd yr awdur mwyaf gweithgar wrth gyfrannai at waith Martinus Scriblerus.[1]

Cyfarfu'r clwb yn aml am ryw bymtheg i ugain mlynedd, a phan oedd aelodau ar daith buont yn gohebu â'i gilydd. Ni chyhoeddwyd y Memoirs of Martinus Scriblerus tan 1741, ond câi trafodaethau'r clwb ddylanwad ar weithiau eraill yr aelodau hefyd. Ysgrifennai Gay ei gampwaith The Beggar's Opera wedi argymhelliad gan Swift, a gwelir dylanwad Martinus Scriblerus yn gryf yn y nofel Gulliver's Travels gan Swift.

Er yr oedd Harley a Bolingbroke yn aelodau'r clwb, nid oes tystiolaeth iddynt gyfrannu at unrhyw ysgrifennu.[1] Ymwelodd Swift â Lloegr am y tro olaf ym 1727, a bu farw'r rhan fwyaf o aelodau eraill erbyn canol y 1730au. Bu farw Pope ym 1744 a Swift ym 1745, gan ddod â'r Scriblerus Club i ben. Ym 1751 ysgrifennodd Richard Owen Cambridge ei ffug-arwrgerdd The Scribleriad ar sail Martinus Scriblerus.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Scriblerus Club. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Ebrill 2023.