Scatman John
Gwedd
| Scatman John | |
|---|---|
| Ffugenw | Scatman John |
| Ganwyd | John Paul Larkin 13 Mawrth 1942 El Monte |
| Bu farw | 3 Rhagfyr 1999 o canser yr ysgyfaint Los Angeles |
| Label recordio | America Records |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Galwedigaeth | scat singer, pianydd, cyfansoddwr, cerddor jazz, sgriptiwr |
| Arddull | jazz, House |
| Gwobr/au | Echo Pop Award for the Hit of the Year |
Cerddor o'r Unol Daleithiau oedd John Paul Larkin (13 Mawrth 1942 – 3 Rhagfyr 1999) a oedd yn perfformio dan yr enw Scatman John. Cyfunodd cerddoriaeth dawns a chanu 'scat' a daeth i enwogrwydd byd-eang yn 53 oed am ei ganeuon "Scatman (Ski Ba Bop Ba Dop Bop)", "Scatman's World" yn 1995 ac "Everybody Jam!" yn 1997.
Roedd ganddo atal dweud difrifol pan yn blentyn a darganfyddodd ganu scat ar recordiau gan Ella Fitzgerald a Louis Armstrong, ymysg eraill.