Rwseiffa
![]() | |
Math | dinas ![]() |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+2 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Lywodraethol Zarqa ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 38 km² ![]() |
Uwch y môr | 750 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 32.0178°N 36.0464°E ![]() |
![]() | |
Mae Rwseiffa (neu Russeifa mewn orgraff gyffredin Saesneg; Arabeg: الرصيفة) yn ddinas o Ardal Lywodraethol Zarqa, Gwlad Iorddonen. Mae ganddi boblogaeth o 472,604 yn 2015,[1], gan ei gwneud y bedwaredd ddinas fwyaf yn y wlad, ar ôl Amman, Irbid a Zarca. Ymddengys, am ddinas mor fawr, nad oes gan Reseiffa dîm pêl-droed o safon genedlaethol.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae tref Rwseiffa wedi'i lleoli yng nghanol yr Iorddonen, ym nyffryn yr Afon Zarqa, ar briffordd Amman-Zarqa. Mae Amman, Zarqa a Rwseiffa yn ffurfio ardal fetropolitan fawr, yr ail ardal fetropolitan fwyaf yn y Lefant, ar ôl Damascus yn Syria. Mae'r ddinas yn perthyn yn weinyddol i Lywodraethiaeth Zarqa. Oherwydd ei agosrwydd at Amman a Zarqa, mae'n gartref i nifer o ddiwydiannau trwm.
Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Amcangyfrifodd Cyfrifiad Cenedlaethol Iorddonen 2004 fod poblogaeth Rwseiffa yn 268,237 o drigolion.[2] Roedd cyfran y menywod i ddynion yn 48.46% i 51.54%. Dinasyddion Iorddonen sy'n ffurfio 89.6% o boblogaeth y ddinas.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei diwydiant mwyngloddio ffosffad ers 1935, a ddarganfuwyd gan Amin Kamel Kawar.[3] Mae'r cwmni "Jordan Phosphate Mines", a sefydlwyd gan Kawar, yn gweithredu'r mwyngloddiau yn Rwseiffa. Ymddengys nad yw'r mwynglawdd bellach mewn defnydd ac nad oes ffosffad ar ô.[4]
Ceir sawl diwydiant trwm yn Rwseiffa oherwydd ei lleoladi rhwng dwy ddinas fawr Amman a Zarqa, a phresenoldeb yr afon Zarqa gerllaw.
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "The General Census - 2015" (PDF). Department of Population Statistics.
- ↑ Nodyn:Citar web
- ↑ "Amin K. Kawar". kawar.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-01. Cyrchwyd 2019-04-16.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-16. Cyrchwyd 2019-04-16.