Ruby Evans
Ruby Evans | |
---|---|
Ruby yn Pencampwriaeth Ewrop 2022 | |
Ganwyd | 2007 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gymnast |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gymnast artistig o Gymru yw Ruby Grace Evans (ganwyd 17 Mawrth 2007). Mae hi'n rhan o dîm Prydain, ac roedd hi'n rhan o'r tim enillodd medal arian yn Nhwrnament Ewropeaidd 2024 ac mae hi wedi bod yn bencampwr gogledd Ewrop bump gwaith
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ruby yng Nghaerdydd yn 2007. Dechreuodd gymnasteg pan oedd yn bump oed.[1] Ei chlwb gymnasteg cyntaf oedd Clwb Gymnasteg Olympaidd Caerdydd. Yn 2024, roedd hi'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd.
Gyrfa gymnasteg iau
[golygu | golygu cod]2019
[golygu | golygu cod]Cystadlodd Ruby yn ei Phencampwriaeth Cymru cyntaf yn 2019, cipiodd y drydedd wobr gyffredinol yn yr adran espoir. Mis yn ddiweddarach, bu'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Prydain lle chafodd ail ar y llawr a seithfed yn gyffredinol.
2022
[golygu | golygu cod]Yn gynnar yn 2022, cystadlodd Ruby ym Mhencampwriaeth Cymru a Phrydain, gan ennill y categori iau yn y ddau. Yn mis Gorffennaf, aeth i 'European Youth Olympic Festival' lle helpodd Prydain Fawr i orffen yn y chweched safle. Yn unigol, enillodd arian ar y llofnaid. Ym mis Awst, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Ewrop lle helpodd Prydain i orffen yn bedwerydd. Yn unigol, gorffennodd yn bedwerydd a thrydydd ar ddeg yn gyffredinol.
Ym mis Tachwedd, cystadlodd ym mhencampwriaeth Gogledd Ewrop. Helpodd Cymru i ennill fel tîm. Yn unigol, enillodd aur ar y llofnaid.[2]
Gyrfa gymnasteg hŷn
[golygu | golygu cod]2023
[golygu | golygu cod]Ers 2023 mae Ruby yn gymwys i gystadlu mewn cystadlaethau gymnasteg 'hŷn'. Gwnaeth ei début hŷn ar gyfer Prydain yng Nghwpan Byd Cottbus lle enillodd arian ar y llofnaid ac efydd ar y llawr.[3] Ym mhencampwriaeth Cymru, roedd Ruby'n ail tu ôl i Poppy-Grace Stickler. Ym mhencampwriaeth Prydain, roedd hi'n bumed yn gyffredinol ac enillodd aur ar y llofnaid.
Yn mis Medi, cafodd Ruby ei dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd 2023 gyda Jessica Gadirova, Alice Kinsella, Ondine Achampong, a Georgia-Mae Fenton. Ruby oedd y gymnast gyntaf o Gymru mewn 17 mlynedd i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd. Yn y bencampwriaeth, gorffennodd tîm Prydain yn chweched yn y rownd derfynol.
I orffen 2023, cystadlodd ym Mhencampwriaeth Gogledd Ewrop. Helpodd Cymru i ennill y gystadleuaeth tîm ac yn unigol enillodd aur yn gyffredinol ac ar y llawr.
2024
[golygu | golygu cod]Dechreuodd 2024 ym Mhencampwriaeth Cymru, lle bu'n gyntaf yn gyffredinol, ar y llofnaid, barrau anghyflin ac ar y llawr. Cystadlodd fel gwestai ym mhencampwriaeth Lloegr, lle bu'n gyntaf ar y llawr ac yn ail ar y trawst. Ym mhencampwriaeth Prydain, bu'n ail yn gyffredinol. Aeth Ruby i bencampwriaeth Ewropeaidd yn nhîm Prydain gydag Ondine Achampong (yn ddiweddarach wedi amnewid gydag Abigail Martin), Alice Kinsella, Becky Downie, a Georgia-Mae Fenton. Helpodd y tîm i orffen yn ail tu ôl i'r Eidal.
Yn mis Mehefin, cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 gyda Downie, Kinsella, Fenton, and Martin. Ruby yw'r gymnastwraig cyntaf o Gymru i fynd i'r Gemau Olympaidd ers Sonia Lawrence yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1996.[4]
Hanes Cystadlu
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Digwyddiad | Tim | Yn Gyffredinol | Llofnaid | Barrau anghyflin | Trawst | Llawr |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Espoir | |||||||
2019 | Pencampwriaeth Cymru | ||||||
Pencampwriaeth Prydain | 7 | ||||||
Iau | |||||||
2021 | Elite Gym Massilia | 5 | 13 | 7 | |||
Pencampwriaeth Prydain | |||||||
2022 | Pencampwriaeth Cymru | ||||||
Pencampwriaeth Prydain | 6 | 6 | |||||
International GymSport | |||||||
European Youth Olympic Festival | 6 | ||||||
Pencampwriaeth Ewropeaidd | 4 | 13 | 4 | ||||
Pencampwriaeth Gogledd Ewrop | |||||||
Twrnament Top Gym | |||||||
Hyn | |||||||
2023 | Cwpan Byd Cottbus | 6 | |||||
Pencampwriaeth Cymru | |||||||
Pencampwriaeth Prydain | 5 | 5 | |||||
Pencampwriaeth y Byd | 6 | ||||||
Pencampwriaeth Gogledd Ewrop | |||||||
2024 | Pencampwriaeth Cymru | 4 | |||||
Pencampwriaeth Lloegr (gwestai) | |||||||
Pencampwriaeth Prydain | |||||||
Cwpan Byd Doha | |||||||
Pencampwriaeth Ewropeaidd | |||||||
Varna Challenge Cup | |||||||
Gemau Olympaidd | 4 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ruby Evans". www.british-gymnastics.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "2022 Northern European Championships Results". The Gymternet (yn Saesneg). 2022-11-21. Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "Ruby Evans". www.british-gymnastics.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "Ruby Evans | Team GB". www.teamgb.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-03.