Rosser Beynon (Asaph Glan Taf)

Oddi ar Wicipedia
Rosser Beynon
Ganwyd1810 Edit this on Wikidata
Glyn-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ionawr 1876 Edit this on Wikidata
Penydarren Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, llyfrwerthwr Edit this on Wikidata

Roedd Rosser Beynon (Asaph Glan Taf) (Mawrth, 18103 Ionawr, 1876) yn gerddor Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Asaph Glan Taf yng Nglyn-nedd, Morgannwg, yn fab John Beynon ac Elizabeth Rosser ei wraig. Dydy union ddyddiad ei eni ddim yn hysbys ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Blwyf Glyncorrwg ar 25 Mawrth 1810.[2] Roedd yn frawd i'r cerddor John Beynon (leuan Lwyd) ac yn ewythr i'r Parch David J. Beynon, Rhiwabon. Pan oedd Asaph tua 4 mlwydd oed symudodd y teulu i Ferthyr Tudful. Cafodd ei addysgu mewn ysgol ddyddiol dan ofalaeth gŵr o'r enw George Williams.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 8 mlwydd oed ymadawodd Asaph a'r ysgol i weithio yng ngwaith haearn Dowlais. Fe gododd i safle is-oruchwyliwr yn y gwaith cyn ymadael a'r gwaith i weithio fel gwerthwr llyfrau ar ei liwt ei hun.[3] Methiant bu'r busnes gwerthu llyfrau a symudodd i'r gwaith glo fel goruchwyliwr ac wedyn fel asiant.

Cerddor[golygu | golygu cod]

Ni chafodd Asaph Glan Taf na Ieuan Lwyd, ei frawd, unrhyw hyfforddiant cerddorol ffurfiol, ond gan fod y ddau yn frwdfrydig dros ganu cynulleidfaol cawsant bob cefnogaeth a chymorth i ddatblygu gan y capeli a chorau lleol ym Merthyr a Dowlais. Daeth Ieuan yn gerddor medrus ac Asaph yn gerddor rhagorol. Roedd Asaph yn arweinydd corau a chymanfaoedd, yn arbennig cymanfaoedd dirwest.[4] Roedd yn athro gerdd ac yn cael ei gydnabod fel "tad cerddoriaeth Morgannwg", gan ei fod wedi hyfforddi cymaint o gerddorion, arweinwyr a chodwyr canu'r sir.[5] Roedd yn feirniad cystadlaethau Eisteddfodol, mawr ei barch, trwy Gymru gyfan. Ei gyfraniad pwysicaf i gerddoriaeth ei ddydd oedd cyhoeddiad ei gampwaith Telyn Seion. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf o'r gwaith ym 1845, a'r holl rannau yn un llyfr yn 1848. Ceir yn y casgliad 20 o donau o'i waith ei hun a thonau gan gyfansoddwyr eraill. Telyn Seion oedd y llyfr gyntaf erioed i gynnwys nodau amser i fetronom gyda'r gerddoriaeth.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Mary Lewis ym 1833 a chawsant dau fab a thair merch.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref ym Mhenydarren o lid ar yr ysgyfaint yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cefn Coed y Cymmer, Merthyr.[6] Ar ei garreg fedd mae hir a thoddaid gan Watcyn Wyn er cof amdano:

Yma yn isel mae un o weision
Miwsig a'i mawredd ymysg y meirwon
Cenad dirwest ac athraw cantorion,
Hunodd yn Ngwalia dan nawdd angylion,
Ac yn Iesu cysga'i noson — a'i ffydd
Roes aur obenydd i Rosser Beynon.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BEYNON, ROSSER ('Asaph Glan Tâf'; 1811 - 1876), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-02-07.
  2. Gwasanaeth archifau Cymru, Cofrestri plwyf Morgannwg, eglwys Glyncorrwg, 1810
  3. "Newyddion Cymreig - Y Dydd". William Hughes. 1876-01-14. Cyrchwyd 2020-02-07.
  4. "EISTEDDFOD CYMRODORION DIRWESTOL ABERDAR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1860-09-12. Cyrchwyd 2020-02-07.
  5. "MARWOLAETH ASAPH GLAN TAF - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1876-01-07. Cyrchwyd 2020-02-07.
  6. "Y DIWEDDAR ASAPH GLAN TAF - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1876-01-21. Cyrchwyd 2020-02-07.
  7. Cymru Cyf. 34, 1908; Tud. 226 adalwyd 7 Chwefror 2020