Richard ap Meurig
Richard ap Meurig | |
---|---|
Ganwyd | c. 1440 Cymru |
Bu farw | 1503 Bryste |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | fforiwr, person busnes |
Swyddog tollau a marsiandwr Eingl-Gymreig oedd Richard ap Meurig, Amerik, neu A'Meryke[1] (1445 – 1503). Roedd yn gyfrwngwr rhwng Harri VII a'r fforiwr John Cabot ar ei fordaith ym 1497–8, ac yn ôl rhai Amerik, ac nid Amerigo Vespucci, yw tarddiad enw cyfandir yr Amerig neu America.
Ganwyd ym 1445 yn Llys Meryk, Weston under Penyard, ger Rhosan ar Wy. Disgynnai o deulu Ieirll Gwent. Trigai am gyfnod gyda'i wraig Lucy Wells ger Ilchester, a symudodd yn ddiweddarach i Fryste. Daeth yn ddyn cefnog a dylanwadol ac erbyn 1497 yn siryf y dref. Gwasanaethodd sawl tro yn Swyddog Tollau'r Brenin.
Richard oedd y prif noddwr dros adeiladu llong Cabot. Cafodd goed derw o ystâd deuluol Richard eu torri a'u harnofio ar Afon Gwy i Gas-gwent, dros Afon Hafren ac i fyny'r Avon i ddociau Bryste. Mae'n debyg iddo ofyn Cabot i enwi tiroedd newydd ar ei ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Rodney Broome. Amerike: the Briton who gave America its name (Sutton, 2002).