Richard L. Rubenstein

Oddi ar Wicipedia
Richard L. Rubenstein
Ganwyd8 Ionawr 1924 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mai 2021 Edit this on Wikidata
Bridgeport Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Harvard
  • Ysgol Harvard Divinity
  • Hebrew Union College – Jewish Institute of Religion – New York Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, diwinydd, addysgwr, rabi, academydd, ysgrifennwr, damcanydd cydgynllwyniol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Bridgeport
  • Prifysgol Talaith Florida
  • The Washington Times Edit this on Wikidata

Athronydd crefyddol Americanaidd a diwinydd Iddewig oedd Richard Lowell Rubenstein (8 Ionawr 192416 Mai 2021) sydd yn nodedig am ei gyfraniad at theodiciaeth mewn ymateb i'r Holocost, fel prif ladmerydd y mudiad "Marwolaeth Duw".

Ganed yn y Lower East Side, Manhattan, Efrog Newydd, i Jesse Rubenstein a'i wraig Sara, Fine gynt. Gweithiodd Jesse i gwmni bwyd, ac roedd gan Sara radd meistr mewn llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Efrog Newydd. Nid oeddynt yn Iddewon duwiol, a ni chafodd Richard hyd yn oed bar mitzvah. Symudodd y teulu i'r Upper East Side, a neidiodd Richard dri dosbarth yn Uwchysgol Townsend Harris, un o ysgolion rhagoraf Efrog Newydd. Cychwynnodd ar ei astudiaethau yng Ngholeg y Ddinas, Efrog Newydd, cyn gorffen ei radd baglor ym Mhrifysgol Cincinnati ym 1946 tra'n astudio i fod yn rabi yng Ngholeg Hebraeg yr Undeb, Cincinnati. Dychwelodd i Efrog Newydd gan ddilyn ei athro, Abraham Joshua Heschel, i'r Athrofa Ddiwinyddol Iddewig, ac yno fe'i ordeiniwyd yn rabi ym 1952. Derbyniodd ei radd meistr mewn diwinyddiaeth sanctaidd o Ysgol Ddiwinyddiaeth Harvard ym 1955, ac enillodd ddoethuriaeth mewn hanes crefydd o Brifysgol Harvard ym 1960, dan diwtoriaeth yr Athro Paul Tillich.[1][2]

Yn y 1960au daeth nifer o ddiwinyddion Protestannaidd i'r amlwg a oedd yn cwestiynu cysyniadau traditional ynglŷn â natur a galluoedd Duw, gan dynnu ar athroniaeth Friedrich Nietzsche a Paul Tillich, ac yn dadlau bod y syniad o Dduw hollalluog sydd yn rheoli hanes y ddynolryw yn amddifadu bodau dynol o'u hewyllys rydd. Arloesai Rubenstein agwedd Iddewig ar y mudiad hwn drwy ddadlau bod erchyllter yr Holocost yn dileu dichonoldeb duw caredig sydd yn diogelu'r Iddewon, Ei bobl etholedig. Yn ei lyfr After Auschwitz: Radical Theology and Contemporary Judaism (1966), gofynnai, "Sut gall Iddewon gredu mewn Duw hollalluog, daionus ar ôl Auschwitz?" Er gwaethaf ei ddiwinyddiaeth radicalaidd, ni throdd Rubenstein ei gefn ar ei ffydd, a bu'n mynd i'r synagog ar y Sabath am weddill ei oes.

Treuliodd Rubenstein y rhan fwyaf o'i yrfa academaidd yn athro crefydd ym Mhrifysgol Daleithiol Fflorida, o 1971 i 1995. Ymsefydlodd yn Connecticut pan gafodd ei benodi'n athro crefydd ym Mhrifysgol Bridgeport, a llywydd ar y brifysgol honno, ym 1995. Bu Prifysgol Bridgeport dan reolaeth Professors World Peace Academy (PWPA), mudiad a sefydlwyd gan y Parchedig Sun Myung Moon a oedd yn gysylltiedig ag Eglwys yr Uniad. Cafodd hyn ei feirniadu, am fod Eglwys yr Uniad yn gwlt yn ôl rhai, ond mynnodd Rubenstein nad oedd gan y PWPA ddylanwad ar gwricwlwm neu staff Bridgeport. Ymddeolodd Rubenstein o Brifysgol Bridgeport ym 1999.[1]

Priododd Rubenstein ddwywaith, a chafodd dri mab ac un ferch o'i wraig gyntaf, Ellen Vanderveen, a thri llysblentyn o'i ail wraig, Betty Rogers. Trigodd yn ei henaint yn Fairfield, Connecticut. Bu farw Richard L. Rubinstein o sepsis mewn hosbis yn Bridgeport, Connecticut, yn 97 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Joseph Berger, "Richard Rubenstein, 97, Dies; Theologian Challenged Ideas of God", The New York Times (5 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 9 Mehefin 2021.
  2. (Saesneg) Emily Langer, "Richard Rubenstein, Jewish theologian who questioned traditional notions of God, dies at 97", The Washington Post (9 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 9 Mehefin 2021.