Cwlt

Oddi ar Wicipedia

Term difrïol[1] yw cwlt sy'n cyfeirio at fudiad crefyddol newydd neu grŵp debyg sydd efo chredoau neu arferion a ystyrir yn anarferol neu'n eithafol.[2][3] Ceir diffiniadau amrywiol, ac mae rhai yn ei ystyried yn derm propaganda.[4] Yn aml ystyrir gorfodaeth seicolegol yn dacteg sy'n diffinio mudiad yn gwlt,[5] a hefyd arweinydd neu grŵp o arweinwyr sy'n mynnu ufudd-dod llwyr gan ddilynwyr y mudiad, a'r dilynwyr yn byw gyda'i gilydd mewn ffordd annarferol.[6] Oherwydd y ddadl dros ystyr y term, mae rhai academyddion yn ei weld yn ddiystyr.[1][7]

Yn yr 20g daeth mudiadau crefyddol newydd yn bwnc llosg i'r sectorau crefyddol a seciwlar yng nghymdeithasau Ewrop a Gogledd America, a defnyddiwyd y gair "cwlt", term crefyddol sy'n golygu addoliad at endid penodol, er enghraifft "cwlt y Forwyn Fair", i ddisgrifio rhai o'r mudiadau hyn. Ymddangosodd nifer ohonynt yn sgil gwrthddiwylliant y 1960au, rhai ohonynt efo syniadau apocalyptaidd neu sy'n credu mewn milflwyddiaeth. Datblygodd y mudiad gwrth-gyltiau yn y 1970au yn sgil troseddau gan aelodau o gyltiau, yn bennaf llofruddiaethau'r Teulu Manson a'r llofruddiaethau ac hunanladdiadau torfol yn Jonestown gan aelodau'r Peoples Temple. Mae'r mudiad gwrth-gyltiau yn cynnwys nifer o gyn-aelodau'r fath mudiadau a theuluoedd aelodau presennol, a hefyd nifer o Gristnogion sy'n pryderu am fudiadau crefyddol "ffug-Gristnogol" sy'n dysgu credoau sy'n groes i uniongrededd Cristnogaeth.[8] Yn ôl y mudiadau a labelir yn gyltiau, mae'r mudiad gwrth-gyltiau yn dystiolaeth o erledigaeth a gormes grefyddol yn eu herbyn.[4]

Ceir nifer o ddadleuon rhwng y mudiad gwrth-gyltiau ac academyddion. Mae nifer o wrthwynebwyr yn cyhuddo cyltiau o bwylldreisio'u haelodau, ond mae'r mwyafrif o ymchwilwyr academaidd yn gwrthod hyn.[9] Mae cymdeithasegwyr yn ceisio llunio damcaniaethau i esbonio cyltiau. Mae nifer o ysgolheigion yn gytûn taw seciwlareiddio ac enciliad crefyddau traddodiadol yn y Gorllewin sydd wedi creu lle i fudiadau crefyddol newydd ffynnu,[10] a bod anffyddwyr, agnostigiaid a dilynwyr hen grefyddau yn gwrthod hyn. Yn ôl un ddarlun o gyltiau, mae rhieni sy'n anhapus a'u plant mewn oed sy'n ymuno â mudiadau crefyddol newydd yn ailfynnu eu hawdurdod trwy wrthwynebu'r mudiadau. Cafodd hyn ei waethygu gan y cyfryngau'n cyhoeddi straeon cyffrogarol am gyltiau rhyfedd, yn enwedig yn ystod panig y 1980au dros gamdrin defodol Satanaidd, a berswadiodd y cyhoedd o fygythiadau cyltiau. Datblygodd diwydiant oedd yn "datbwylldreisio" aelodau mudiadau crefyddol newydd, ac felly tyfodd nifer o grwpiau oedd yn cael budd o wrthwynebu cyltiau.[11][12]

Defnyddir y label "cwlt" i feirniadu nifer o fudiadau crefyddol, gan gynnwys Scientoleg, Eglwys yr Uniad (y "Moonies"), ac hyd yn oed y Mormoniaid. Mae'r gair yn llai dadleuol wrth ddisgrifio mudiadau sydd yn hyrwyddo tor-cyfraith a hunanladdiad, megis Aum Shinrikyo,[13] Ordre du Temple Solaire,[14] y Branch Davidians, a Heaven's Gate. Gelwir y fath grwpiau yn "gyltiau peryglus" neu "gyltiau distrywiol", hynny yw mudiadau sy'n annog camdriniaeth, llofruddiaeth ac hunanladdiad,[3] ac mae llywodraethau a heddluoedd wedi cymryd camau yn erbyn grwpiau a ystyrir yn beryglus.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Richardson, James T. (Mehefin 1993). "Definitions of Cult: From Sociological-Technical to Popular-Negative". Review of Religious Research (Religious Research Association, Inc.) 34 (4): 348–356. http://www.jstor.org/discover/10.2307/3511972?uid=3738032&uid=2129&uid=2&uid=70&uid=4&sid=21101233985873. Adalwyd 3 Tachwedd 2012.
  2. (Saesneg) cult. Cambridge Dictionaries Online. Adalwyd ar 2 Tachwedd 2012.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Beyer, Catherine. What Is a Cult?. About.com. Adalwyd ar 2 Tachwedd 2012.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Cult or religion: What's the difference?. e-cyclopedia. BBC (13 Gorffennaf 1999). Adalwyd ar 2 Tachwedd 2012.
  5. (Saesneg) cult. Collins English Dictionary. Adalwyd ar 2 Tachwedd 2012.
  6. (Saesneg) cult. thefreedictionary.com. Adalwyd ar 3 Tachwedd 2012.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-14. Cyrchwyd 2012-11-03.
  8. (Saesneg) What Is a Religious Cult?. Christian Research Institute. Adalwyd ar 2 Tachwedd 2012.
  9. Lewis, James R. (2008). Lewis, James R. (gol.). The Oxford Handbook of New Religious Movements. Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 5. doi:10.1093/oxfordhb/9780195369649.003.0001. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2012.
  10. Panchenko, Alexander (2004). "New Religious Movements and the Study of Folklore: The Russian Case". Folklore (Tartu) 28: 111–128. http://www.folklore.ee/folklore/vol28/movement.pdf. Adalwyd 2 Tachwedd 2012.
  11. Bromley, David G.; Shupe, Anson D. (1981). Strange Gods: The Great American Cult Scare. Boston: Beacon Press. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2012.
  12. Lewis (2008), t. 6.
  13. (Saesneg) Japan cultists sentenced to death. BBC (17 Gorffennaf 2000). Adalwyd ar 3 Tachwedd 2012.
  14. http://www.oxfordscholarship.com/view/10.1093/acprof:oso/9780199735631.001.0001/acprof-9780199735631-chapter-6
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: