Richard Hughes (nofelydd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Richard Hughes
Ganwyd 19 Ebrill 1900 Edit this on Wikidata
Weybridge Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Ebrill 1976 Edit this on Wikidata (76 oed)
Harlech Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth newyddiadurwr, bardd, nofelydd, awdur, dramodydd Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig A High Wind in Jamaica Edit this on Wikidata
Gwobr/au Swyddog o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) Edit this on Wikidata

Roedd Richard Hughes (19 Ebrill 190028 Ebrill 1976)[1] yn nofelydd a bardd yn yr iaith Saesneg ac yn gymydog i Dylan Thomas ym mhentref Talacharn. Ysgrifennodd hefyd nifer o storiau byrion a dramâu.[2]

Ganwyd yn Walton-on-Thames, Surrey. Gwas sifil oedd ei dad Arthur a ganed ei fam Louisa Grace Warren yn Jamaica. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Charterhouse, Godalming, Surrey a graddiodd yng Ngholeg Oriel, Rhydychen yn 1922.

Yn Rhydychen cyfarfu Robert Graves, a chyd-olygodd y ddau gylchgrawn ar farddoniaeth (Oxford Poetry) yn 1921. Sgwennodd ddrama fer The Sisters' Tragedy a lwyfanwyd yn Theatr y Royal Court, yn y West End yn 1922. Ef hefyd oedd y cyntaf i sgwennu drama radio; comisiynwyd Danger gan y BBC a chafodd ei darlledu ar 15 Ionawr 1924. Bu farw yn Nhalsarnau, Gwynedd

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan http://stainedglass.llgc.org.uk/; Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
  2. Richard Perceval Graves: Richard Hughes. A biography. London: A. Deutsch, 1994.


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.