Richard Brooke Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Brooke Roberts
Ganwyd 7 Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
Titusville Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Ebrill 1980 Edit this on Wikidata (69 oed)
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaeth biolegydd Edit this on Wikidata

Bioffisegydd oedd Richard Brooke Roberts (7 Rhagfyr 19104 Ebrill 1980) a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yng ngrŵp bioffiseg Adran Magnetaeth y Ddaear yn Athrofa Carnegie Washington (UDA). Rhoddodd enw ar y ribosom mewn cyfarfod yn 1958.[1] Cyn troi at fioffiseg, canolbwyntiodd ar ffiseg niwclear ac ef a brofodd fod niwtronau hwyr yn cael eu hallyrru pan holltir iwraniwm (1939).

Fe'i ganwyd ym Titusville, Pennsylvania, i deulu eitha cefnog. Bu ei gyndeidiau'n fasnachwyr olew a thechnegau o ddefnyddio ffrwydron i ryddhau a chlirio ffynhonau olew. Ef oedd y trydydd plentyn a symudodd y teulu i Princeton yn 1916 ac yna i Efrog Newydd; ond pob haf dychwelodd i Titusville, hyd at diwedd y 1930au.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.nap.edu; Roy J. Britten (1993); adalwyd 9 Mehefin 2016
  2. nasonline.org; adalwyd 9 Mehefin 2016.