Ricarda Huch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ricarda Huch
Ricarda Huch.jpg
Ganwyd Ricarda Huch Edit this on Wikidata
18 Gorffennaf 1864 Edit this on Wikidata
Braunschweig Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Tachwedd 1947 Edit this on Wikidata (83 oed)
Schönberg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen
Addysg Doethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Zurich Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ysgrifennwr, bardd, llyfrgellydd, hanesydd, nofelydd, dramodydd, athronydd Edit this on Wikidata
Tad Richard Huch Edit this on Wikidata
Mam Emilie Huch Edit this on Wikidata
Priod Ermanno Ceconi, Richard Huch Edit this on Wikidata
Plant Marietta Ceconi Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Goethe Edit this on Wikidata

Awdures a llyfrgellydd Almaenig oedd Ricarda Huch (18 Gorffennaf 1864 - 17 Tachwedd 1947) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, hanesydd, nofelydd a dramodydd.

Fe'i ganed yn Braunschweig, Niedersachsen, yr Alamen a bu farw yn Schönberg, Hessen; fe'i claddwyd ym Mhrif Fynwent Frankfurt. Bu'n briod i Ermanno Ceconi ac yna i Richard Huch ac roedd Marietta Ceconi yn blentyn iddi. [1][2][3][4][5]

Fe'i hyfforddwyd fel hanesydd, ac roedd yn awdur ar nifer o weithiau hanes Ewrop, ysgrifennodd nofelau, cerddi a drama hefyd. Ceir "Asteroid 879 Ricarda" a enwyd ar ei hôl. Cafodd ei henwebu am y Gwobr Lenyddol NobelWobr Nobel mewn Llenyddiaeth saith gwaith.[6]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Huch yn Braunschweig i Marie Louise a Georg Heinrich Huch ym 1864. Roedd yr Huchs yn deulu o fasnachwyr adnabyddus. Roedd ei brawd Rudolf a'i chefndryd Friedrich a Felix yn awduron. Tra'n byw gyda'i theulu ym Braunschweig, gohebodd â Ferdinand Tönnies.[7]

Gan nad oedd prifysgolion yr Almaen yn caniatáu i fenywod raddio yr adeg honno, gadawodd Huch Braunschweig ym 1887 a symudodd i Zurich i sefyll arholiadau mynediad Prifysgol Zurich. Fe ymaelododd mewn rhaglen PhD (hanes) a derbyniodd ei doethuriaeth ym 1892 am draethawd ar "Niwtraliaeth y Cydffederasiwn yn ystod Rhyfel Olyniaeth Sbaen" (Die Neutralität der Eidgenossenschaft während des spanischen Erbfolgekrieges). Tra ym Mhrifysgol Zurich sefydlodd gyfeillgarwch parhaol gyda Marie Baum, Hedwig Bleuler-Waser a Marianne Plehn, a oedd fel hi wedi dod i Zurich i astudio.[8]

Ar ôl derbyn ei doethuriaeth, cafodd waith yn llyfrgell gyhoeddus Zurich. Yn 1896 bu'n dysgu mewn ysgol i ferched yn Bremen.

Cyhoeddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr 1890au cyhoeddodd Huch ei cherddi a'i straeon cyntaf. Yn 1892, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Erinnerungen von Ludolf Ursleu dem Jüngeren. Yn 1897 symudodd Huch i Fienna i ymchwilio i Ramantiaeth. Yn Fienna, cyfarfu â'r deintydd Eidalaidd Ermanno Ceconi, a briododd ym 1898. Ym 1899, rhoddodd enedigaeth i'w merch Marietta.[8]

Ym 1899 cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o'i hastudiaeth gyfrol ar Romantiaeth Almaeneg, Blütezeit der Romantik. Lansiodd y llyfr Huch fel cyfrannwr at y drafodaeth ddiwylliannol gyfoes yn yr Almaen a sefydlodd ei henw da fel hanesydd.[8]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Academy of Arts, Berlin am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11907908s; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 24602873, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11907908s; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11907908s; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Academy of Arts, Berlin; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ricarda Huch.
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 9 Ebrill 2014Wikidata Q36578 Alexander Prokhorov, ed. (1969), Большая советская энциклопедия, Moscfa: Great Russian Entsiklopedia, JSC, OCLC 14476314Wikidata Q17378135 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11907908s; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Academy of Arts, Berlin; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ricarda Huch.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 10 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578 Alexander Prokhorov, ed. (1969), Большая советская энциклопедия, Moscfa: Great Russian Entsiklopedia, JSC, OCLC 14476314Wikidata Q17378135
  6. "Nomination Database". www.nobelprize.org. Cyrchwyd 2017-04-19.
  7. James Martin Skidmore (2005). The Trauma of Defeat: Ricarda Huch's Historiography During the Weimar Republic. Peter Lang. p. 21. ISBN 9783039107605.
  8. 8.0 8.1 8.2 James Martin Skidmore (2005). The Trauma of Defeat: Ricarda Huch's Historiography During the Weimar Republic. Peter Lang. p. 22. ISBN 9783039107605.