Rhyfel yr ieithoedd

Oddi ar Wicipedia
Rhyfel yr ieithoedd
Y Technicwm (Technion) yn ei gartref cyntaf yng nghymdogaeth Hadar HaCarmel, 1913 (erbyn hyn yr adeilad yw cartref yr Amgueddfa Gwyddoniaeth, Technoleg a Gofod Genedlaethol)
Dyddiad1913 Edit this on Wikidata

Anghydfod cyhoeddus a ddigwyddodd yn y wladychfa Iddewig ym Mhalesteina ym 1913 dros le'r Hebraeg fodern yn system addysg Iddewig y wladychfa oedd Rhyfel yr Ieithoedd (Hebraegː מלחמ השפות; Milhemet HaSafot). Ezra, cymdeithas gymorth Iddewon yr Almaen, oedd targed yr anghydfod hwn, nad oedd yn rhyfel mewn gwirionedd. Roedd yn anarferol o ran ei heffaith, ac mae rhai yn ei hystyried yn symbol o fuddugoliaeth i'r deffroad cenedlaethol Iddewig ac adfywiad yr iaith Hebraeg.

Y Cefndir[golygu | golygu cod]

Ym 1904, dim ond 6 o'r 29 o ysgolion cyfundrefnol yn y wladychfa oedd yn defnyddio'r Hebraeg fel cyfrwng dysgu. Roedd Ezra yn cynnal ysgolion i Iddewon yn nwyrain Ewrop ac yn y Dwyrain Canol. Yn 1905 dechreuodd y gymdeithas gynnal ysgolion yn y wladychfa ac fe greodd rwydwaith o ysgolion o lefel ysgolion meithrin hyd at golegau hyfforddi athrawon. Yn 1908, penderfynodd Ezra sefydlu'r sefydliad ôl-uwchradd proffesiynol cyntaf yn y wladychfa. Yr enw a ddewiswyd ar gyfer y sefydliad newydd oedd " Technicwm", a'r bwriad oedd hyfforddi gweithwyr medrus (goruchwylwyr, technegwyr, peirianwyr cynorthwyol, ac yn y blaen). Dyma'r sefydliad a drodd yn Technion yn ddiweddarach. Bwriedid codi ysgol uwchradd dechnegol gerllaw oedd yn dysgu dau brif bwnc, sef prif bwnc technegol ac un ymarferol.

Ezra a roddodd y rhan fwyaf o'r arian i'r sefydliad. Penderfynodd ei reolwyr, dan arweiniad y Dr. Paul Natan, sylfaenydd y gymdeithas, mai Almaeneg, ac nid Hebraeg, a fyddai'n cael ei defnyddio'n brif gyfrwng dysgu, a hynny'n bennaf, yn ôl ei ddadl, oherwydd ystyriaethau ymarferol. Mantais yr Almaeneg, dadleuodd, oedd ei bod yn iaith a ddefnyddid mewn gwyddoniaeth. Dim ond yn ddiweddar y dechreuwyd defnyddio'r Hebraeg fel iaith bob dydd, ac roedd hyd yn oed pleidwyr yr Hebraeg yn ymwybodol bod diffygion mawr o ran geirfa dechnegol a gwyddonol ac offer a fyddai'n galluogi ysgolion i gynnig addysg wyddonol yn yr iaith.

Yr Anghydfod[golygu | golygu cod]

Eliezer Ben-Yehuda, un o arweinwyr y rhyfelwyr yn y frwydr dros yr iaith Hebraeg

Cododd anghydfod a ledodd dros y wladychfa gyfan, o dan arweiniad disgyblion ysgol yn bennaf gyda'u hathrawon a'u rhieni yn eu cefnogi i raddau gwahanol wedyn. Daeth gwrthwynebiad o bob haenen o gymdeithas, o'r deallusion a'r gweithwyr, trigolion y trefi a'r ffermydd, mudiadau a phleidiau, Iddewon yn y wladychfa yn ogystal ag Iddewon y tu allan iddi. Dechreuodd streic yn sefydliadau Ezra a bu protestiadau. Oherwydd y streic, lleolwyd heddlu Otomanaidd yn y sefydliadau addysgol i amddiffyn y rhai a ddewisodd beidio â streicio. Ymhlith arweinwyr y "rhyfelwyr" roedd Eliezer Ben-Yehuda a wnaeth hyn er gwaethaf ei ddibyniaeth ar gymdeithas Ezra a'i helpodd i ariannu cyhoeddi ei eiriadur Hebraeg. Bu'r ddadl rhwng y ddwy ochr yn un ffyrnig a di-baid hyd nes i'r Dr. Shmarihu Levin, a benodwyd gan Ezra i fod yn rheolwr prosiect sefydlu'r Technicwm gefnogi'r Hebraeg fel prif iaith yr ysgol uwchradd ac ymddiswyddo o'i swydd. Siaradodd hefyd yn yr 11eg Gyngres Seionaidd a gynhaliwyd yn 1913 yn Fienna gan fynnu bod yn rhaid i'r Sefydliad Seionaidd ofalu am addysg y genhedlaeth iau yn y wladychfa. Ar Hydref 26, 1913, cynhaliwyd cyfarfod tyngedfennol gan reolwyr sefydliad y Technicwm yn Berlin ar bwnc cyfrwng y dysgu. Y penderfyniad oedd derbyn cynnig y Dr Natan a dysgu drwy gyfrwng yr Almaeneg.

O ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw, ymddiswyddodd yr aelodau Seionaidd o fwrdd rheoli'r sefydliad. Yn y wladychfa cododd gwrthwynebiad mawr yn erbyn cymdeithas Ezra, yn gymaint felly fel y cyhoeddodd Undeb yr Athrawon boicot yn erbyn yr ysgol dechnegol a'r ysgol uwchradd (dim ond gweithred symbolaidd oedd hyn, gan nad oedd yr ysgol dechnegol a'r ysgol uwchradd wedi'u sefydlu eto, ac nid oedd angen athrawon eto).

Storm y cyhoeddiadau: y rhyfel dros yr iaith Hebraeg. Poster ar gyfer cynulliad yn Neve Shalom

Canlyniadau'r frwydr[golygu | golygu cod]

Oherwydd y dadlau am yr ieithoedd, methwyd â dod i hyd i bobl i roi arian i barhau â'r prosiect, felly bu'n rhaid atal y gwaith adeiladu oherwydd diffyg arian a gohirio agor y sefydliad. Y canlyniad uniongyrchol oedd diswyddo'r gweithwyr a mwy o elyniaeth tuag at Ezra yn y wladychfa. Nid oedd gan Ezra ddewis ond ildio, ac mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar Chwefror 22, 1914, cyhoeddodd mai Hebraeg fyddai cyfrwng dysgu'r Technicwm.

Yn y diwedd, roedd y fuddugoliaeth yn y frwydr yn nwylo'r rhai oedd o blaid defnyddio'r iaith Hebraeg. I'r blaid honno, roedd y wladychfa fel petai wedi cael ei rhyddhau o ddibyniaeth ryngddiwylliannol a dylanwad ieithoedd tramor, a chryfhawyd cenedlaetholdeb Iddewig yn sylweddol wrth i Iddewon y wladychfa ddod ynghyd i wrthwynebu penderfyniad Ezra, cymdeithas anseionaidd â'i phencadlys ym Merlin. Roedd diswyddo'r athrawon o Ezra yn cael ei weld fel gweithred o dorri'n rhydd o gadwyni "gwarcheidiaeth" ac yn gam tuag at annibyniaeth ym maes addysg, a sefydlu sefydliadau addysgol fel y Ganolfan Hyfforddi Athrawon Hebraeg ac Ysgol Reali yn Haifa. Datblygodd rhwydwaith addysg Hebraeg yn y wladychfa o dan nawdd bwrdd cyhoeddus gyda gwerthoedd cenedlaethol-Seionaidd. Cydnabu'r awdurdodau Otomanaidd yr Hebraeg yn iaith addysg. Ym 1922, datganodd llywodraeth Mandad Prydain yr iaith Hebraeg yn un o ieithoedd swyddogol Palesteina, ochr yn ochr â Saesneg ac Arabeg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • bataliwn amddiffynwyr iaith
  • y ddadl ynghylch statws Iddeweg mewn llenyddiaeth
  • iaith addysg

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • The War of the Languages (nli.org.il)[1]
  • Uzi Ornan,(cyf. R.M. Crowe ac Avraham Solomonik), "Pennod Clo Adfywiad yr Hebraeg", Adfywiad yr Hebraeg, Canolfan Ymchwil Cymraeg i Oedolion, Aberystwyth, 1988, tt. 64-72 [2]

Troednodiadau[golygu | golygu cod]

  1. "The War of The Languages". The National Library of Israel. Cyrchwyd 4 Ebrill 2024.
  2. Crowe, Richard M. (1988). Adfywiad yr Hebraeg. Aberystwyth: Canolfan Ymcwhil Cymraeg i Oedolion. tt. 64–72.